Rheilffordd y Mwmbwls

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,066
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 987
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y tro cyntaf erioed




Ar 25 Mawrth, 1807, tynnwyd coets yn llawn pobl gan geffyl ar hyd Bae Abertawe, o Brewery Bank wrth ochr Camlas Abertawe, i Castle Hill ym mhentref Ystumllwynarth, neu'r Mwmbwls fel mae'n cael ei alw fel arfer.



Adeiladwyd y cledrau'n wreiddiol ym 1804 i gludo calchfaen o chwareli'r Mwmbwls i Abertawe, ond ym 1807, talodd y mentrwr Benjamin French £20 i gwmni'r Tramroad Company fel y gallai gludo teithwyr ar hyd y lein am flwyddyn. Nid oedd ffordd yn bodoli rhwng y Mwmbwls ac Abertawe ar y pryd a ffynnodd y lein, er i docyn costio 2 swllt ym 1813, felly dim ond pobl gefnog a allai fforddio teithio'n rheolaidd. Erbyn 1823, roedd pris tocyn wedi disgyn i swllt ac fe barhaodd y lein i lwyddo nes adeiladwyd ffordd ym 1826. O'r pryd hwnnw ymlaen, roedd pobl yn tueddu i ddefnyddio'r bysys ceffyl a daeth y rheilffordd yn llai poblogaidd a mynd i weinyddiad.




Llwyddiant a dirywiad




Ond erbyn y 1860au, roedd y rheilffordd yn gweithio eto ac ym mis Awst 1877 dechreuwyd defnyddio trenau ager. Roedd trenau ceffyl a threnau ager yn rhedeg ar hyd y cledrau ar yr un pryd nes daeth defnyddio ceffylau i ben yn y 1890au. Agorwyd y pier newydd yn y Mwmbwls ym 1898 ac estynnwyd y rheilffordd i'r atyniad newydd. Cynyddodd poblogrwydd y pier ddefnydd y rheilffordd yn ddramatig wrth i'r Mwmbwls ddatblygu'n gyrchfan wyliau poblogaidd. Dyma oedd anterth y rheilffordd gyda bron 1,800 o deithwyr yn cael eu cludo ar y tro.



Yn ystod yr ugeinfed ganrif, aeth y rheilffordd drwy gyfnodau amrywiol. Cynyddodd defnydd o'r rheilffordd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i danwydd gael ei ddogni a chynyddu defnyddio mathau eraill o gludiant. Wedi diwedd y rhyfel, daeth y rheilffordd yn llai poblogaidd ac oherwydd problemau gweinyddu caeodd ar 5 Ionawr 1960.