Chwarel Lechi'r Llechwedd
'Gwythïen Hen Feirionnydd'
Agorwyd chwarel lechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog ym 1846 gan J. W. Greaves. Bu'r chwilio am lechfaen yn Llechwedd bron iawn â gwneud Greaves yn fethdalwr, gan yr oedd eisoes wedi gwario £25,000 ar archwilio safle'r chwarel erbyn 1849, ac fe wrthododd y banciau wneud benthyciadau pellach iddo. Heb yr arian hwnnw, nid oedd Greaves yn gallu talu ei weithwyr ac roedd y fenter ar fin dod i ben yn fethiant drud. Yn ffodus, roedd criw o ddynion ffyddlon yn rhannu cred Greaves ym mhresenoldeb y llechfaen a pharhau i chwilio am y llechfaen yn ddi-dâl. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, darganfuwyd gwythïen fawr o lechfaen a gafodd ei galw'n 'Wythïen Hen Feirionnydd'.
Pan ddarganfuwyd y wythïen yn Llechwedd, aethpwyd ati i gysylltu'r chwarel â Rheilffordd Ffestiniog a oedd wedi agor ym 1836. Cwblhawyd adeiladu inclein i'r chwarel ym 1848.
Twf, datblygiad a dirywiad
Caniataodd y rheilffordd i'r tunelli o lechi a gynhyrchwyd yn Llechwedd deithio i Borthmadog ac yna ar y môr o amgylch y byd. Ym 1851, cynhyrchwyd 2900 tunnell o lechi gorffenedig yn y chwarel, ac fe gynyddodd i dros 7600 tunnell erbyn 1863. Roedd cymaint o alw am lechi Llechwedd yr adeiladwyd cei pwrpasol ym Mhorthmadog ym 1853 i ganiatáu i'r fflyd o longau hwylio gludo'r llechi i'r marchnadoedd.
Ym 1890, dechreuodd Chwarel Llechwedd ddefnyddio trydan i bweru'i pheiriannau, a chynhyrchu ei thrydan hydro-electrig ei hun diolch i'r glaw trwm ym Mlaenau Ffestiniog.
Fel gweddill y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru, dioddefodd Chwarel y llechwedd o'r dirwasgiad yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Agorwyd Ceudyllau Llechi Llechwedd i'r cyhoedd ym 1972. Yn wahanol i'r chwareli eraill yn yr ardal, mae cloddio''n parhau yn Llechwedd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment