Gosod sylfeini: Sefydliadau Gweithwyr

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,116
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,276
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 652
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 866
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Sefydliadau Gweithwyr






<p> Rhwng y 1880au a'r 1930au, codwyd nifer o Sefydliadau Gweithwyr yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de a gogledd-ddwyrain Cymru. Eu diben oedd cynnig cyfleusterau addysgiadol a hamdden i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Fel arfer byddent yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, lle byddai modd mwynhau'r papurau dyddiol. Gallent hefyd gynnwys ystafelloedd gemau (roedd snwcer, biliards a dominos yn arbennig o boblogaidd) yn ogystal &acirc; theatrau a sinem&acirc;u. Cynhelid darlithoedd cyhoeddus, ral&iuml;au gwleidyddol, cyngherddau, dawnsfeydd ac eisteddfodau yno. Roeddent hefyd yn fannau cyfleus i grwpiau a chymdeithasau i gyfarfod ac i fandiau lleol i ymarfer a pherfformio. Roedd rhai o'r adeiladau hyn gymaint &acirc; phedwar neu bum llawr o ran uchder ac roedd ganddynt byllau nofio, hyd yn oed!

</p>



Oakdale




Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale yn gwasanaethu'r gymuned o amgylch Glofa Oakdale yn Sir Fynwy. Suddwyd y siafft gyntaf yn y rhan hon o Gwm Sirhywi,  a fu hyd hynny’n gymharol ddigyffwrdd, ym 1906, ac fe suddwyd ail siafft - y Waterloo - bedair blynedd yn ddiweddarach. Gwelwyd bod y gwythiennau glo yn ardderchog o ran safon y glo yn ogystal â thrwch y gwythiennau. Darparwyd llety i'r gweithwyr a'u teuluoedd mewn 'pentref model' pwrpasol o'r enw Oakdale.




Gosod sylfeini




Canolbwynt y pentref oedd Sefydliad y Gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu hwn ym 1917, ac ar 3 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni i osod dwy garreg sylfaen. Cyflwynwyd tryweli engrafiedig i'r ddau ddyn blaenllaw, sef Harry Blount, ar ran y gweithwyr, ac Alfred S. Tallis, Rheolwr-gyfarwyddwr Cwmni Haearn a Glo Tredegar, a oedd yn berchen ar bwll Oakdale. Cwblhawyd yr adeilad y flwyddyn ganlynol ac mae'n debyg y byddid wedi cynnal seremoni bryd hynny, hefyd, gan osod carreg gopa i nodi bod y gwaith adeiladu wedi dod i ben.  Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 10 Medi 1917, a chyflwynwyd allwedd arbennig i A. S. Tallis yn arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor adeiladu am gael benthyg £10,000 gan y cwmni at gost codi'r adeilad.




Bywyd newydd yn Sain Ffagan




 Rhoddwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ym 1987 a chafodd ei ddatgymalu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ailgodwyd ef a'i adfer i'w gyflwr ar ddiwedd y 1930au a'i agor i'r cyhoedd ym 1995. Cyflwynwyd y ddau drywel a ddefnyddiwyd yn y seremoni i osod y garreg sylfaen i'r Amgueddfa yn y misoedd cyn yr agoriad gan berthnasau'r derbynwyr gwreiddiol. (Roedd un trywel wedi teithio cyn belled ag Ynys Wyth, a'r llall yn Abertawe). Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock, a oedd ar y pryd yn Gomisiynydd Cludiant yr Undeb Ewropeaidd, ond cyn hynny ef oedd arweinydd y Blaid Lafur ac AS etholaeth Bedwellte yr oedd Oakdale yn rhan ohoni. Rai dyddiau cyn yr agoriad cyflwynwyd yr allwedd engrafiedig a roddwyd i Gwmni Haearn a Glo Tredegar i'r Amgueddfa hefyd.