Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895)
Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895)
Ganed Arglwyddes Charlotte Elizabeth Bertie ym 1812, yn ferch i 9fed Iarll Lindsey, ac fe'i magwyd yn Swydd Lincoln. Roedd yn hoff iawn o lenyddiaeth ers iddi fod yn ferch ifanc. Symudodd i Lundain pan oedd yn 21 oed, a chyfarfu â'i darpar ŵr, gŵr gweddw o'r enw Syr Josiah John Guest, yn wreiddiol o Ferthyr Tudful. Priododd y pâr ym 1833 ac ymgartrefu ym mhlasty Dowlais. Roedd ei gŵr yn berchennog rhannol ar Gwmni Haearn Dowlais gerllaw.
Bywyd ym Merthyr Tudful
Roedd gan Charlotte ddiddordeb mawr yn y gweithfeydd haearn, a gweithiodd yn galed i wella bywydau'r gweithwyr a'r bobl leol. Moderneiddiodd yr ysgolion, a hybodd addysg i oedolion. Ym 1855 agorodd ysgol newydd gyda lle i 1,566 o ddisgyblion ynddi. Wrth wneud y gwaith hwn, tyfodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, bywyd cymdeithasol a Chymdeithas Llundain. Dysgodd sut i reoli'r gweithfeydd haearn o ddydd i ddydd, dysgodd Gymraeg, moderneiddiodd yr ysgolion a chafodd ddeg o blant!
Y Mabinogion
Gwaith pwysicaf Arglwyddes Charlotte Guest oedd trosi chwedlau'r Mabinogion a Hanes Taliesin o Gymraeg Canol i Gymraeg Modern, ac yna'u cyfieithu i'r Saesneg, a hynny wedi i John Jones (Tegid) fenthyca copi o Lyfr Coch Hergest iddi. Cyhoeddwyd y cyfieithiadau ansawdd uchel yma mewn tair cyfrol rhwng 1838 a 1849 – gan rannu'r straeon yn saith rhan. Hwn oedd yr unig gyfieithiad am bron i ganrif nes i Gwyn Jones a Thomas Jones gyhoeddi cyfieithiad newydd ym 1948! Wrth wneud y gwaith yma, tynnodd Arglwyddes Charlotte Guest sylw gweddill Ewrop at lenyddiaeth ganoloesol uniaith Gymraeg.
Teithio yn Ewrop
Pan fu farw ei gŵr, Josiah John Guest ym 1852, aeth Arglwyddes Charlotte Guest ati i reoli'r gweithfeydd haearn tan 1855 pan ailbriododd â Charles Schreiber, Aelod Seneddol Poole a Cheltenham. Aethant i deithio yn Ewrop yn y blynyddoedd yn dilyn, a chasglodd gryn dipyn o grochenwaith a'i adael i Amgueddfa Victoria ac Albert pan fu farw. Bu farw ar 15 Ionawr 1895.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment