Boneddigesau Llangollen (The Ladies of Llangollen)
Cefndir yn Iwerddon
Y Foneddiges Eleanor Butler (1739-1829) a Miss Sarah Ponsonby (1755-1832) oedd Boneddigesau Llangollen. Mae eu hanes yn rhoi awgrym o berthynas agos dwy wraig a benderfynodd ffoi o Iwerddon gan fod eu teuluoedd yn anhapus gyda'u perthynas agos.
Roedd y Foneddiges Eleanor Butler yn perthyn i linach un o deuluoedd pwysicaf Iwerddon, teulu Butler, Ieirll Ormond, Dugiaid Ormond yn ddiweddarach. Hi oedd merch ieuengaf y teulu, ac er i’w chwiorydd a'i brawd briodi'n dda, roedd Eleanor yn sengl a hithau'n 39 mlwydd oed. Roedd hi'n wraig alluog ac yn ddarllenwraig frwd, ac oherwydd hyn yn cael ei galw'n rhyfedd! Penderfynodd y teulu gael gwared arni drwy ei hanfon i leiandy.
Roedd Sarah Ponsonby 16 mlynedd yn iau nag Eleanor, ac yn byw gyda theulu yn Woodstock yn Iwerddon gan ei bod yn amddifad. Roedd Sarah yn cael ei phoenydio'n fawr gan sylw digroeso ei mabwysiadwr canol oed, Syr William Fownes. Roedd ei wraig yn sâl iawn, ac roedd ef yn gobeithio, pan fyddai ei wraig yn marw, y byddai Sarah yn ei briodi.
Ceisio dianc
Roedd y ddwy mewn sefyllfa annioddefol, ac fe ddechreuodd y llythyrau rhwng y ddwy gynyddu. Penderfynodd y ddwy ffoi i Loegr. Gwisgodd y ddwy fel dynion gan gario pistolau a chi Sarah, Frisk, a marchogaeth drwy'r nos er mwyn cyrraedd y fferi yn Waterford. Ond ni hwyliodd y fferi, a bu rhaid iddynt guddio mewn ysgubor. Cawsant eu dal, a'u hanfon adref yn syth.
Gydag Eleanor yn wynebu cael ei hanfon i leiandy yn Ffrainc, penderfynodd y ddwy geisio dianc unwaith eto. Gan fod Sarah yn sâl iawn, cuddiodd Eleanor yn ei hystafell, a chael bwyd wedi smyglo iddi trwy garedigrwydd y forwyn, Mary Carryll. Pan ddarganfuwyd lle'r oedd Eleanor, gwrthododd ei theulu ddod i'w nôl, ac ar ôl deng niwrnod caniatawyd i Sarah adael cartref teulu Fownes. Roedd y ddwy'n rhydd i adael.
Y Ladies
Ym 1778 hwyliodd y ddwy yng nghwmni'r forwyn garedig, Mary Carryll, o Iwerddon i Aberdaugleddau, a theithio am y gogledd, ac ym 1780 prynwyd bwthyn Pen-y-maes, y tu allan i Langollen. Cafodd y tŷ ei ail-enwi'n Blas Newydd, a dechreuwyd ail-harddu'r bwthyn yn yr arddull Gothig.
Ond pam gafodd y ddwy gymaint o sylw yn y ddeunawfed Ganrif? I ddechrau, nid oedd yn gyffredin i ferch ddi-briod fyw'n annibynnol, ac roedd byw gyda rhywun arall yn fwy anghyffredin fyth! Roeddent yn cael eu hadnabod yn lleol fel “Y Ladies”.
Perthynas rhamantus?
Un cwestiwn sydd heb gael ei ateb, sef beth yn union oedd eu perthynas? A oeddent yn gwpl lesbiaidd neu'n ffrindiau agos? Beth bynnag oedd eu perthynas, roedden nhw'n ymddwyn fel pâr priod, gan alw ei gilydd yn ŵr a gwraig, “my better half”, “my sweet love” a “beloved”. Ond nid oedd yn anghyffredin siarad felly am ffrind, na ffrindiau'n rhannu gwely chwaith, yn y 18fed ganrif.
Ysgrifennodd Eleanor ddyddiadur am fywyd y ddwy gyda'i gilydd, er iddynt fyw bywyd cymharol dawel. Treuliwyd yr amser yn darllen a harddu'r bwthyn, ond daethant yn enwog trwy Brydain am eu perthynas anghyffredin. Daeth llawer o bwysigion i ymweld, yn eu plith y beirdd Byron a Wordsworth, y nofelydd Sir Walter Scott, a Dug Wellington!
Beth bynnag oedd eu perthynas, cariadon ai peidio, buont fyw gyda'i gilydd am hanner can mlynedd. Bu farw Eleanor ar 2 Mehefin 1829, gan adael Sarah ar ei phen ei hun ym Mhlas Newydd tan ei marwolaeth hithau ym mis Rhagfyr 1832.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment