Brenin Enlli

Eitemau yn y stori hon:

  • 860
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,477
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,447
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Hanes unigryw




Mae math arbennig o ddirgelwch sy'n amgylchynu Ynys Enlli. Dwy filltir yn unig oddi ar frig Penrhyn Llŷn, mae gan yr ynys fach hanes cyfoethog yn ymestyn yn ôl dros y canrifoedd . Mae'r ffermwyr a'r pysgotwyr lleol wedi gweld pob mathau o ymwelwyr yn mynd a dod, pawb wedi'u denu gan yr unigedd sydd ar ochr arall y darn byr, peryglus o ddŵr sy'n ei gwahanu o'r tir mawr. Mae mynachod a phererinion, môr-ladron a charcharorion, beirdd ac artistiaid oll wedi ymgartrefu ar Ynys Enlli rhywbryd neu'i gilydd.



Rhan o hanes  unigryw'r ynys yw hanes Brenin Enlli. Nid yw unrhyw un yn gwybod o le ddaeth y traddodiad yn union, ond am dros ganrif bu Enlli'n 'deyrnas'. Mae'n ymddangos y cafodd y brenin cyntaf ei goroni gan yr ail Arglwydd Niwbwrch, perchennog yr ynys, yn ystod un o'i ymweliadau yno. Cynhaliwyd gwledd iddo ef a'i wraig, Arglwyddes Maria Stella, ac mae sôn y coronwyd 'brenin a brenhines' cyntaf yr ynys ar ddiwedd dathliad. Rhoddwyd het i bawb oedd yn byw ar yr ynys, gyda  rhubanau ychwanegol ar hetiau brenin a brenhines Ynys Enlli. Ni wyddys beth yw rôl union y brenin ond mae'n debyg y byddai wedi bod yn llefarydd rhwng pobl yr ynys ag Arglwydd Niwbwrch mewn materion yn ymwneud â rhenti a threthi.




Y Brenin cyntaf




Credir i'r traddodiad ddechrau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ond gwisgwyd y goron am y tro cyntaf ym 1820 gan frenin anadnabyddus. Anfonwyd llythyr at deulu Niwbwrch ym 1826 i'w hysbysu am farwolaeth y brenin, ac ymwelodd Arglwydd Niwbwrch â'r ynys yn fuan wedyn i goroni olynydd.



John Williams (1799-1841) oedd y brenin cyntaf. Er nad yw dyddiad ei goroniad yn sicr, cafodd ei goroni tra oedd yn sefyll ar gadair ar ran gulaf yr ynys. Roedd yn ffermio 12 erw yng Nghristin Uchaf ac fe foddodd wrth geisio croesi i'r tir mawr ar ei ben ei hun. Roedd tua 42 oed ac roedd ei wraig wedi geni mab y diwrnod cynt.



Credir i John Williams gael ei olynu gan Robert Williams (1796-1875), gweinidog Calfinaidd a oedd yn ffermio 16 erw o dir yn Fferm Hendy. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1875, daeth John Williams II, mab brenin cyntaf Ynys Enlli, yn frenin. Nid ydym yn gwybod rhyw lawer am yr ail John Williams er mae sôn iddo golli'i arian fel canlyniad i yfed a bu raid iddo adael yr ynys. Bu'n 'teyrnasu' tan tua 1911 pan benderfynodd trigiannydd arall, Love Pritchard, gymryd y frenhiniaeth o'i wirfodd, gan ddatgan, 'Fi yw'r hynaf; Dwi am fod yn Frenin nawr.' Roedd ef yn ffermwr a physgotwr a oedd yn byw yn Nhŷ Pellaf.




Love Pritchard




Roedd Love Pritchard yn gymeriad lliwgar. Mae'n debyg iddo gynnig gwneud gwasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd yn ei saithdegau, a chael ei wrthod. Fel canlyniad, fe wnaeth datganiad fod Ynys Enlli'n niwtral, ac mae'n ymddangos yr aeth mor bell â datgan teyrngarwch i Kaiser Wilhelm II.



Love Pritchard arweiniodd yr ynyswyr o Ynys Enlli i'r tir mawr am y tro olaf ym 1925. Dywedodd wrth y Daily Sketch 'does gennym ddim digon o ddynion ifanc i rwyfo cychod i ni na gofalu am y gwartheg.' Roedd Pritchard yn 82 oed pan arweiniodd y trigolion o'r ynys ac fe fu farw'r flwyddyn ganlynol.



Heddiw mae Enlli'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a bywyd gwyllt sy'n byw yno'n bennaf, er mae ymwelwyr yn mynd a dod i fwynhau unigedd a heddwch yr ynys.



Mae Coron Ynys Enlli'n cael ei chadw yn Amgueddfa Arforol Lerpwl.