Gwared ni rhag drwg: Dillad cuddiedig

Eitemau yn y stori hon:

  • 820
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 978
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,056
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

O dan y lloriau




Wrthi’n adnewyddu hen dŷ? Byddwch yn wyliadwrus! Pwy a ŵyr beth sydd o dan y lloriau neu’r tu ôl i’r waliau? Efallai dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio’n fwriadol gan gyn-drigolion y tŷ er mwyn dod â lwc a ffrwythlondeb i’r cartref. ‘Caches’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r cuddiadau bwriadol hyn, enw a ddaw o’r gair Ffrangeg am guddio. Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wedi casglu nifer ohonynt dros y blynyddoedd. Mae pob darganfyddiad newydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar y traddodiad gwerin diddorol hwn.




Esgidiau cuddiedig




Esgidiau sy’n cael eu darganfod amlaf. Ceir hyd iddynt fel arfer yn agos i simneiau neu lefydd tân, ond anaml y’u darganfyddir fesul pâr. Esgidiau plant ydynt fel arfer. Cafwyd hyd i’r esgid ledr uchod o’r 19fed ganrif y tu ôl i le tân yn Llanfachreth ym 1994. Fe ddaeth y perchnogion ar draws pedair esgid arall yn yr un man, pob un ohonynt wedi mewn cyflwr treuliedig. Mwy na thebyg roeddent yn perthyn i uned deuluol o ddau riant a thri o blant. 



Roedd simneiau a llefydd tân yn fannau poblogaidd i guddio pethau oherwydd mai’r aelwyd oedd canolbwynt y cartref. Dyma oedd ffynhonnell gwres a chysur y cartref a lle i’r teulu ymgynnull. Weithiau byddai esgidiau yn cael eu cuddio o dan y lloriau, o gwmpas drysau ac o dan y grisiau. Credai rhai mai’r llefydd hyn oedd y mannau gwannaf mewn adeilad, ac felly gallai ysbrydion drwg neu wrachod gael mynedfa trwyddynt. Gosodid esgidiau yn y llefydd hyn er mwyn dal neu gornelu unrhyw ddrwg.




Staes y tu ôl i'r wal!




Nid esgidiau yw'r unig bethau sy’n cael eu darganfod. Cafwyd hyd i hetiau, siacedi a chlos penglin hefyd. Daeth y darn yma o staes o dŷ to gwellt yn Heol Cae Cerrig, Pontarddulais, o'r tu ôl i wal drwchus ar un ochr i’r aelwyd. Mae’n dyddio o ganol y 18fed ganrif ac wedi ei wneud o dair haen o ddefnydd: haen allanol o wlân, stribedi o esgyrn morfil a leinin o liain. Mae olion pwythau sidan mewn mannau. Y darn hwn fyddai panel blaen y staes yn wreiddiol, yn gorchuddio’r frest a’r stumog.



Beth os dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio? Os yn bosibl, ceisiwch osgoi ei drafod yn ormodol a chysylltwch â'ch amgueddfa leol am gyngor pellach. Cofiwch gymryd digon o luniau o’r dilledyn yn ei safle gwreiddiol cyn ei symud. Yn anad dim, cadwch eich llygaid ar agor; efallai mai darn o hanes yr adeilad yw’r hen recsyn yna dan y cerrig!