Kate Roberts, 'Brenhines ein Llên'

Eitemau yn y stori hon:

Plentyndod yn Rhosgadfan

Ganed Kate Roberts yn Rhosgadfan ar 13 Chwefror 1891 yn ferch i Owen a Catrin Roberts. Kate oedd plentyn cyntaf ail briodas y ddau, ac fe gawsant dri mab arall yn frodyr iddi, Richard, Evan a David.

Roedd Owen ei thad yn chwarelwr a’i mam yn gweithio ar dyddyn y teulu, Cae’r Gors, i geisio cadw dau ben llinyn ynghyd. Tyfodd ardal Rhosgadfan, a Rhostryfan gyfagos, yn sgil y diwydiant llechi, ac mae’r ardal yn frith o dyddynnod bach a chaeau sy’n nodweddiadol o gartrefi chwarelwyr llechi.

Cafodd Kate ei haddysg gynradd yn Ysgol y Cyngor, Rhostryfan, cyn symud ymlaen i Ysgol Sir Caernarfon wedi iddi ennill ysgoloriaeth. Astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor rhwng 1910 a 1913 gan raddio gydag anrhydedd a derbyn Tystysgrif Athrawes.

Aeth yn athrawes i Ysgolion Elfennol Dolbadarn, Llanberis a Chonwy ar ôl gadael coleg cyn symud i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Sir Ystalyfera yn 1915. Dwy flynedd yn ddiweddarach  symudodd i Ysgol Sir y Merched yn Aberdâr lle dysgodd Gymraeg, Hanes a Daearyddiaeth.

Bywyd Priodasol a Gwasg Gee

Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac ymunodd â Phlaid Cymru pan gafodd ei sefydlu ym 1925. Yn wir, cyfarfu â'i gwr, Morris T. Williams, drwy Blaid Cymru. Cyfarfu’r ddau yng ngorsaf drenau’r Groeslon pan oeddent ar fin cychwyn am Ysgol Haf gyntaf y Blaid ym Machynlleth. Yn dilyn eu priodas ym mis Rhagfyr 1928 rhoddodd Kate y gorau i ddysgu a bu’r ddau yn byw yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd tan 1931, ac yna yn Nhonypandy.

Wedi’r cyfnod yma yn y De, dychwelodd Kate a Morris i Ogledd Cymru, gan ymgartrefu yn Ninbych wedi iddynt brynu Gwasg Gee yn 1935. Gwasg Gee oedd un o weisg pwysicaf a hynaf Cymru a sefydlwyd gan Thomas Gee yn ystod y 1830au.  Roedd y wasg yn cyhoeddi deunydd Cymraeg, Anghydffurfiol yn bennaf, a lansiwyd y papur newydd ‘Baner Cymru’ ym 1857. Newidwyd enw’r papur i ‘Baner ac Amserau Cymru’ ym 1859 ar ôl uno â phapur newydd ‘Yr Amserau’.

Tra oedd hi’n byw yn y De, ac ar ôl symud i Ddinbych, cyhoeddodd Kate nifer o gyfrolau, gan gynnwys ei gwaith enwocaf, sef y nofel ‘Traed Mewn Cyffion’, a gyhoeddwyd ym 1936. Ysgogwyd hi i ysgrifennu gan dristwch teuluol; anafwyd ei brawd, Evan, ym mrwydr y Somme a bu farw ei brawd arall, David, o’i anafiadau mewn ysbyty ym Malta ym 1917. Dywedodd fod ysgrifennu'n therapi iddi; yn ffordd o ymdopi â cholled. Gellir gweld hyn yn glir gan fod ei gwaith wedi rhannu'n ddau gyfnod, y cyntaf wedi iddi golli ei brawd ac yna’r ail ar ôl colli'i mam ym 1944 a’i gŵr Morris ym 1946.

Ei gwaith

Ailgydiodd yn ei gwaith llenyddol gan gyhoeddi ‘Stryd y Glep' ym 1949. Parhaodd i gyhoeddi tan 1981 pan gyhoeddodd ei chyfrol olaf, ‘Haul a Drycin’.

Themâu cyson yn ei gwaith yw bywyd a chymdeithas wledig ei phlentyndod. Mae nifer o’i nofelau wedi seilio yn ei hardal enedigol, gyda chymdeithas a ffordd o fyw'r chwareli'n gefndir. Mae’n amlwg iddi ddefnyddio nifer o atgofion ei phlentyndod fel merch i chwarelwr yn ysbrydoliaeth i’w hysgrifennu. Efallai mai ei nofel, ‘Traed Mewn Cyffion’ yw’r enghraifft fwyaf poblogaidd o fywyd yn y cyfnod hwnnw sy’n bodoli yn yr iaith Gymraeg. Yn sicr, mae miloedd o ddisgyblion a myfyrwyr wedi dod i ddysgu am fywyd y cyfnod a chaledi bywyd chwarelwyr drwy ddarllen y nofel hon. Mae Kate Roberts yn portreadu bywyd ei hardal enedigol mewn ffordd unigryw gan gofleidio tafodiaith a ieithwedd ei hardal frodorol yn ei hysgrifennu i ategu at y darlun hwnnw. Roedd hi hefyd yn hoff o bortreadu rôl merch mewn cymdeithas gan gynnwys syniadau am annibyniaeth barn merched a’u pwysigrwydd o fewn yr uned deuluol.

Yn ogystal â’i gwaith creadigol, roedd Kate Roberts yn cyfrannu’n gyson i bapur newydd y ‘Faner’ a gyhoeddwyd gan ei gwasg, ac i’r ‘Ddraig Goch’, papur newydd Plaid Cymru. Roedd ei barnau gwleidyddol yn bwysig iawn iddi a chredai ei fod yn hanfodol fod llyfrau yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg er mwyn annog a hybu’r iaith, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Roedd Kate hefyd yn ganolog i’r ymdrech i sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych, ac fe agorwyd Ysgol Twm o’r Nant ym 1968.

Bu farw Kate Roberts ar 4 Ebrill 1985, yn 94 oed.