arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

John Thomas, Ffotograffydd (1838-1905)


Ffotograffydd a gynigiodd gipolwg ar fywyd yng Nghymru yn ei olygfeydd a thirluniau.


Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Yr eglwys a'r dafarn, Cellan, tua'r flwyddyn 1875

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Eryr Carn Ingli

Ei fywyd cynnar




Ganed John Thomas yng Nghellan, Ceredigion ym 1838, yn fab i'r labrwr David Thomas a'i wraig Jane. Yn dilyn ei addysg yng Nghellan, yn gyntaf yn ddisgybl ac yna'n ddisgybl-athro, dechreuodd Thomas ar brentisiaeth mewn gweithdy teiliwr yn Llanbedr Pont Steffan. Ym 1853 aeth i Lerpwl i weithio mewn siop dilledydd ond bu raid iddo adael ar ôl deng mlynedd i gael gwaith awyr agored oherwydd afiechyd. Dyma'r rheswm y dechreuodd weithio fel cynrychiolydd cwmni'n delio mewn deunyddiau ysgrifennu a ffotograffau o enwogion. Roedd ffotograffau bychain o enwogion, a elwid 'cartes de visite', yn boblogaidd iawn ar y pryd, ac roedd yn fusnes enillfawr.



Yn ystod ei deithiau, sylwodd Thomas fod prinder ffotograffau o enwogion o Gymru. Roedd hwn yn ddigon o ysbrydoliaeth iddo am fusnes newydd ac felly, wedi iddo ddysgu hanfodion ffotograffiaeth, dechreuodd dynnu lluniau enwogion Cymru. Dechreuodd drwy ofyn i bregethwyr adnabyddus eistedd i gael tynnu'u portreadau.




Ffotograffiaeth




Roedd ei fenter yn llwyddiant ac ym 1867 sefydlodd ei fusnes ffotograffig ei hun o'r enw The Cambrian Gallery. Wrth deithio hyd a lled Cymru, fe dynnodd luniau pobl enwog, 'cymeriadau', capeli, eglwysi, cartrefi ac adeiladau a thirluniau, er iddo barhau i fyw yn Lerpwl drwy gydol ei yrfa. Nid oedd cyflawni ffotograffiaeth o'r fath, ar y fath raddfa, yn dasg hawdd. Roedd technegau ffotograffiaeth awyr agored o hyd yn elfennol, ac nid oedd teithio'n hawdd yn ystod y cyfnod hwn.



Er gwaethaf popeth, llwyddodd John Thomas dynnu lluniau unigolion, tirluniau ac adeiladau ym mhob cwr o Gymru yn ystod ei yrfa 30 mlynedd. Roedd ei gasgliad anferth yn werth arian mawr. Sylweddolodd ei bwysigrwydd a dewisodd tua 3,000 o blatiau gwydr a'u gwerthu i O. M. Edwards am bris rhesymol iawn. Roedd Thomas wedi gweithio i O. M. am flynyddoedd lawer, yn ei gyflenwi â delweddau i ddarlunio'r cylchgrawn Cymru, ac fe barhaodd i'w gyflenwi â delweddau hyd yn oed wedi iddo ymddeol.



Bu farw John Thomas ym mis Hydref 1905. Mae'r negatifau a brynodd O. M. Williams nawr yn ffurfio rhan o gasgliad ffotograffiaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac maent yn gyfraniad pwysig i Gasgliad y Werin Cymru.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw