John Frost, Siartydd Amlwg

Eitemau yn y stori hon:

  • 3,878
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,904
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Credoau Siartaidd




Fel Owain Glyndŵr, roedd John Frost yn ddyn cefnog. Daeth ei gwynion am anghyfiawnderau lleol i fod yn rhan o frwydr ehangach o lawer.



Roedd yn deiliwr llwyddiannus a gafodd ffrae gyda'r sefydliad lleol ar ôl dadlau â chyfreithiwr ynglŷn â chynnwys ewyllys ei ewythr. Arweiniodd achos enllib at ei garcharu. Trodd ei brofiad ef yn radical a phan gafodd ei ryddhau ymunodd â mudiad y Siartwyr a oedd yn tyfu'n gyflym.



Roedd y Siartwyr yn ymgyrchu dros hawliau democrataidd sylfaenol sy'n cael eu cymryd yn ganiataol heddiw, ond oedd wedi cael eu hanwybyddu yn Neddf y Diwygio Mawr ym 1832. Dim ond tirfeddianwyr oedd â'r hawl i fod yn aelodau seneddol, eithrio'r dosbarth gweithiol a oedd yn tyfu'n gyflym.



Yn dilyn rhwyg yn y mudiad, penderfynodd Frost gefnogi Siartwyr y Grym Corfforol, a oedd yn barod i ddefnyddio trais i gyrraedd eu nod. Cynddeiriogodd hyn yr Ysgrifennydd Cartref, Arglwydd John Russell, ac ym mis Mawrth 1839 collodd John Frost ei le fel ynad ar y fainc.



Trwy Brydain, ac yn arbennig yn ne Cymru, roedd anniddigrwydd yn berwi dan yr wyneb. Er bod Frost wedi annog peidio â defnyddio trais mewn sawl araith, fe aeth pethau'n waeth pan arestiwyd y siartydd blaenllaw, Henry Vincent.



Cafwyd gorymdaith yng Nghasnewydd gyda Frost yn arwain tair mil o ddynion, y mwyafrif yn lowyr o gymoedd Gwent. Daethant ynghyd ger gwesty Westgate yn y dref, lle y credent fod Siartwyr yn cael eu dal.



Gan eu bod, mae'n debyg, wedi clywed am fwriad y gorymdeithwyr, roedd yr awdurdodau wedi gosod milwyr y tu fewn i'r adeilad. Saethodd y milwyr, gan ladd ugain ac anafu llawer mwy.




Trechu'r gwrthryfelwyr




Os mai'r nod oedd trechu gwrthryfelwyr Casnewydd er mwyn rhwystro mwy o derfysg mewn ardaloedd eraill o Brydain, bu'n llwyddiant. Collodd Mudiad y Siartwyr stêm yn gyflym, a llusgwyd Frost a'i gyd-arweinwyr o flaen eu gwell.



Er iddo gael ei ddedfrydu i grogi, diberfeddu a chwarteri, ni ddigwyddodd hynny. Gan synhwyro y byddai cyflawni'r ddedfryd yn dwysáu'r sefyllfa oedd eisoes dan gymaint o straen, gorchmynnodd y Prif Weinidog, yr Arglwydd Melbourne, i Frost gael ei alltudio i Awstralia.



Ymhen amser dychwelodd Frost i Brydain. Erbyn iddo farw yn 91 oed, roedd yr holl ddiwygiadau yr oedd y Siartwyr wedi ymgyrchu drostynt wedi cael eu diogelu mewn deddfau.