Iolo Morganwg (1747-1826)

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,101
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,430
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,539
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Iolo Morganwg (1747-1826)

Ganed Edward Williams ym mhlwyf Llancarfan, Morgannwg. Er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, fe ddatblygodd ddiddordeb yn iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru. Ni dderbyniodd unrhyw addysg swyddogol, ac yn ôl y sôn fe ddysgodd i ddarllen wrth wylio'i dad yn cerfio cerrig bedd. Dilynodd ei dad ac aeth i weithio'n saer maen. Roedd yn ymddiddori yn nhraddodiad cerddi Cymraeg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi ei hun.

Dewisodd yr enw Iolo Morganwg fel enw barddol. Treuliodd y blynyddoedd rhwng 1773 a 1777 yn Llundain, a daeth yn amlwg iawn o fewn y cymdeithasau Cymry Llundain, yn enwedig y Gwyneddogion. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru fe briododd ac aeth i ffermio, ond dim ond am gyfnod byr.

Daeth Iolo'n enwog yn y byd llenyddol, ac fe ddechreuodd gynhyrchu llawysgrifau a oedd yn profi bod traddodiad derwyddon Cymru a'r gwledydd Celtaidd wedi goroesi'r concwest Normanaidd a Brenin Edward I hyd yn oed, ond ym Morgannwg yn unig. Yn anffodus, nid oedd gan y dogfennau hyn unrhyw sylfaen hanesyddol; daethant o ddychymyg Iolo.

Gorsedd Beirdd Ynys Prydain

Rhwng 1786 a 1787, treuliodd Iolo gyfnod yng Ngharchar y dyledwyr yng Nghaerdydd gan ei fod mewn dyled o dair punt! Tra oedd yn y carchar, bu'n defnyddio'r cyffur lodnwm ar gyfer poen cefn, ac ysgrifennodd “Gorsedd Beirdd Ynys Prydain”. Datblygodd goelbren y beirdd hefyd, a honni mai dyma'r system a ddefnyddiai'r derwyddon hynafol. Daeth y rhain i gyd o'i ddychymyg hefyd. Ym 1789, cyhoeddodd Iolo “Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym”, casgliad o gerddi gan y bardd o'r 14eg ganrif, Dafydd ap Gwilym. Cafodd hwn groeso mawr gan y cyhoedd, ond erbyn heddiw mae wedi dangos bod y llyfr yn cynnwys sawl cerdd nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â Dafydd ap Gwilym - Iolo ei hun a'u hysgrifennodd!

Tra oedd yn Llundain cysylltodd Iolo â Chymdeithas y Gwyneddigion, a oedd yn barod i gredu'r hyn a oedd gan Iolo i ddweud wrthynt. Lluniodd linach hollol ddychmygol ar gyfer Cymry Llundain. Ailwampiodd hanes a nodi i'r traddodiad barddol gychwyn gyda'r Derwyddon. Cafodd y ddysg hon, “Barddas” fel ei gelwir, ei throsglwyddo i lawr ar ffurf lafar a cherdd o athro i ddisgybl, ac roedd ef wedi cael y fraint o etifeddu'r ddysg hon. Cyfansoddodd dipyn o lenyddiaeth bwrpasol, (a ffug, wrth gwrs), i ategu'r hyn yr oedd yn ei hawlio. Roedd ei ddehongliad o'r hanes yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o bobl.     

Y Gorseddau cyntaf

Gyda'r diddordeb yn y Derwyddon yn cynyddu, trefnodd Iolo seremoni ar Fryn Briallu yn Llundain ar Alban Hefin (21 Mehefin) 1792. Ffurfiwyd cylch o gerrig, rhai tipyn llai na'r hyn sy'n cael eu defnyddio heddiw, a charreg mwy o faint yn y canol. Hwn oedd Maen yr Orsedd, neu'r Maen Llog fel mae'n cael ei alw heddiw. Urddwyd aelodau gan yr Orsedd, ac roedd y rhain yn cynnwys Dr William Owen Pughe, Gwallter Mechain - a oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, Dr David Samwell - a oedd ar fwrdd The Discovery, ac eraill. Nid oedd neb yn gwisgo gwisg yr orsedd fel heddiw, ond fe glymodd Iolo rubanau gwyrdd, glas a gwyn am freichiau'r rhai a gafodd eu hurddo'n aelodau. Llwyddodd i dwyllo pawb fod Gorsedd y Beirdd yn hynafol a thraddodiadol, ond fel y gwyddwn erbyn heddiw, daeth y cwbl o ddychymyg Iolo!

Ym 1795 cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru, a hynny ar Alban Eilir (21 Mawrth) ym Mryn Owain (Stalling Down) ger Y Bont-faen, Bro Morgannwg. Cynhaliwyd Gorsedd yno ym 1995 hefyd i ddathlu daucanmlwyddiant yr Orsedd gyntaf yng Nghymru. 

Yr Orsedd a'r Eisteddfod

Nid oedd y gorseddau cynnar yn cael eu hystyried yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol, â dweud y gwir, nid oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn bodoli ar y pryd! Roedd eisteddfodau wedi cael eu cynnal ers canrifoedd, ond rhai lleol ac eithaf bach fyddai'r rhain. Ond fe welodd Iolo ei gyfle, ac fe alwodd ar ei Orseddogion i ddod at ei gilydd yn Eisteddfod Caerfyrddin ym mis Gorffennaf 1819. Cynhaliwyd yr orsedd y diwrnod wedi'r cystadlu. Bu Iolo'n brysur unwaith eto'n dychmygu hanes, ac fe gyhoeddodd ei fod yn ei chynnal o “dan gyfarwyddyd Pendaran Dyfed a than goron Siôr y Trydydd”.

Yn yr Orsedd hon urddwyd Derwyddon â rhuban gwyn i gynrychioli diniweidrwydd, Beirdd â rhuban glas i gynrychioli gwirionedd ac Ofyddion â rhuban gwyrdd i gynrychioli'r celfyddydau. Cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd yng Ngwesty'r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin, y tu mewn i gylch o gerrig bach a ddaeth Iolo gydag ef. Trawsnewidiwyd yr Eisteddfod o hynny ymlaen. Ond bu rhaid aros tan 1860 cyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern cyntaf, a honno yn Aberdâr, pan sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol, ac erbyn hynny roedd Iolo wedi hen farw.

Yr hyn oedd yn arwyddocaol am Iolo oedd, nid ei fod wedi ffugio cymaint o lawysgrifau hynafol, ond ei fod, pan oedd angen, wedi rhoi deffroad hanesyddol a diwylliannol i'r Cymry. Erbyn heddiw mae Iolo Morganwg yn cael ei weld fel un o sylfaenwyr y genedl Gymreig. Ni sylweddolwyd fod ei waith yn ffug tan yr 20fed Ganrif, ac erbyn hynny roedd yn draddodiad cael Gorsedd y Beirdd mewn Eisteddfodau.