Blwyddyn Newydd Dda!

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,161
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y Fari Lwyd



Mae'r ffordd fywiog yma o ddathlu'r Flwyddyn Newydd yn wreiddiol o dde-ddwyrain Cymru, yn enwedig Gwent a Morgannwg. Mae'r Fari Lwyd yn benglog ceffyl ar bolyn wedi'i addurno â rhosod a rhubanau lliwgar. Fel arfer mae lliain gwyn neu les yn cuddio'r polyn a'r person sy'n cario'r Fari. Yn aml mae sbring yn yr ên fel y gall y Fari 'frathu' pobl.


Yn ystod y seremoni, byddai parti'r Fari'n mynd o ddrws i ddrws yn canu caneuon traddodiadol mewn ymgais i gael mynediad i'r tŷ. Byddai cystadleuaeth rhwng y preswylwyr a'r grŵp y tu allan; cystadleuaeth o'r enw pwnco. Byddai penillion yn cael eu canu yn eu tro, fel arfer yn llawn tynnu coes yn gwawdio canu ac ati. Wedi'r pwnco byddai pawb yn mynd i'r tŷ am luniaeth a mwy o hwyl cyn mynd ymlaen i'r tŷ nesaf yn y pentref.


Mae'r Fari Lwyd yn enghraifft benodol o'r wasael, yr arfer o fynd o ddrws i ddrws yn canu carolau. Roedd y Fari Lwyd yn amrywiad ar yr arfer sy'n dyddio i'r cyfnod cyn dathlu'r Nadolig.


Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, effeithiwyd ar y Fari Lwyd gan ddylanwad y capeli ar fywyd bob dydd. Ystyriwyd yr arfer yn anaddas gan fod pobl wedi cael enw drwg am feddwdod ac ymddygiad afreolus. Anogwyd pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau addas fel eisteddfodau. Er i rai ardaloedd barhau â'r traddodiad i mewn i'r 1920au a'r 1930au, yn aml roedd y ffurf wedi'i newid, gyda charolau yn lle'r penillion stwrllyd. Erbyn y 1960au, roedd y traddodiad bron wedi marw yn gyfan gwbl.


Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Fari Lwyd wedi atgyfodi mewn rhai mannau yng Nghymru fel Gwent, Morgannwg a Meirionnydd, gydag aelodau cymdeithasau gwerin yn awyddus i gadw'r hen draddodiad. Yn Ninas Mawddwy, er enghraifft, mae'r Fari Lwyd yn ymweld â thair tafarn yn yr ardal yn hytrach na thai lleol.



Calennig



Mae'r arfer o roi anrhegion ar Ddydd Calan yn hen draddodiad ac yng Nghymru y traddodiad yw casglu Calennig (anrheg Blwyddyn Newydd). Byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ yn dymuno blwyddyn newydd dda i bawb, fel arfer wrth ganu penillion byr fel,



‘Blwyddyn Newydd Dda i chi,

Ac i bawb sydd yn y tŷ,

Dyna yw nymuniad i,

Ar ddechrau’r flwyddyn hon.’ 



Yn ôl traddodiad, byddent yn gwneud hyn cyn hanner dydd ac fe fyddai'r plant yn derbyn anrhegion o fara a chaws neu ddarn o arian am eu canu a'u dymuniadau da. Gellid olrhain tarddiad yr arfer i'r Oesoedd Canol, ond cofnodwyd Calennig ar ei ffurf bresennol am y tro cyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn arferol i'r plant gario afalau wedi'u haddurno ag ŷd a sbrigiau o ddail bythwyrdd yn cynrychioli'r dymuniadau am iechyd yn eu penillion. Anghofiwyd rhan hon y ddefod yn ddiweddarach ac fe fyddai'r plant yn canu'u penillion yn unig am roddion bychain. Enghraifft arall o bennill Calennig yw hwn, sy'n cael ei ganu yng Ngheredigion a Sir Benfro:



Mi godais heddiw ma’s o’m tŷ

A’m cwd a’m pastwn gyda mi,

A dyma’m neges ar eich traws,

Sef llanw’m cwd â bara a chaws.