Skip to main content

Gwarcheidwad y Cymoedd

Ffynhonnell allanol:

Trychineb Six Bells ger Abertyleri

Yn haf 1960, profodd cymuned Six Bells ger Abertyleri drychineb fyddai'n aros gyda nhw am weddill eu dyddiau.

Ar 28 Mehefin achosodd ffrwydrad tanddaearol ym mhwll glo 'Arrael Griffin' farwolaeth 45 o lowyr, pob un yn ddyn lleol - tadau, meibion, gwŷr a brodyr.

Hanner can mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, wedi gwaith diflino gan y gymuned a sefydliadau lleol, codwyd cerflun dur dros 60 troedfedd o uchder gan Sebastien Boyesen, er cof am y bobl a fu farw.

Mae enw pob un o'r 45 wedi'i naddu ar y gwaelod. Oherwydd pryderon diogelwch, doedd y breichiau wedi'u lledu heb eu gosod ar gyfer y seremoni agoriadol, ond cwblhawyd y cerflun erbyn 28 Gorffennaf. 

Gwarcheidwad y Cymoedd

Mae'r ffilm fer hon gan Alun Jones ac Ian Smith yn cofnodi'r digwyddiad coffa a chyflwyno 'Gwarcheidwad y Cymoedd' a saif yn falch nid yn unig er cof am lowyr Six Bells ond glowyr ym mhobman.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment