Tanwydd ar gyfer teithio i'r Antarctig: Cwmni Tanwydd Patent y Goron, Caerdydd
Teithiau arwrol i gyfandir yr Antarctig
Cafwyd sawl taith arwrol i gyfandir yr Antarctig tua dechrau'r ugeinfed ganrif. Tanwydd Patent y Goron o'r De oedd y tanwydd a ddewiswyd ar gyfer yr allteithiau hyn i'r Antarctig.
Tanwydd Patent y Goron
Yn ogystal â derbyn 100 tunnell o lo stêm gan gwmnïau glo'r De, cafodd Alldaith Brydeinig Capten Scott i'r Antarctig 300 tunnell o flociau tanwydd gan Gwmni Tanwydd Patent y Goron Caerdydd. Diolch i hyn a'r nawdd arall a gafwyd o Gaerdydd a'r De, penderfynodd Scott ddynodi Caerdydd yn borthladd cartref ei long, y Terra Nova. Anfonodd y Terra Nova i lwytho tanwydd yng Nghaerdydd yn hytrach na'i anfon ar y trên i Lundain.
Roedd gwaith Tanwydd Patent y Goron ger camlas Morgannwg yn y Maendy. Roedd yn un o nifer ar hyd y gamlas, a diolch i'w cyfraniad nhw a chyfraniad nifer o weithfeydd eraill mewn porthladdoedd eraill yn y De, roedd y rhanbarth hwn yn cynhyrchu mwy o danwydd patent nag unman arall yn y byd. Cafodd y rhan fwyaf o'r tanwydd patent ei allforio, ac roedd Ffrainc yn un o'r prif gwsmeriaid.
Scott yn canmol llwyddiant y tanwydd patent
Er mwyn gwneud y tanwydd roedd rhaid cymysgu a chynhesu glo mân wastraff a phyg, gweddillion tar glo distyll, a chywasgu'r cymysgedd mewn mowldiau. Cynhyrchwyd blociau yn amrywio o 7 pwys i 56 pwys. Blociau 28 pwys oedd y rhai mwyaf cyffredin - a dyna'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer alldaith Scott. Roedd modd pentyrru'r blociau yn rhwydd ac nid oeddynt angen cymaint o le ar y glo.
Pan gyrhaeddodd yr anturwyr eu prif wersyll yn Cape Evans ar Ynys Ross yn yr Antarctig, defnyddiwyd y blociau tanwydd i adeiladu wal gefn y stablau a godwyd ar gyfer merlod yr alldaith.
Teithiau cynharach
Ym 1901 derbyniodd llong y Discovery, a ddefnyddiodd Capten Scott ar ei alldaith gyntaf i'r Antarctig, 200 tunnell o Danwydd Patent yng Nghaerdydd. Roedd yr Aurora, llong Alldaith Awstralasia i'r Antarctig (1911-14) hefyd yng Nghaerdydd i dderbyn Tanwydd Patent y Goron ar 4 Awst 1911 cyn hwylio i Awstralia a'r Antarctig.
Erthygl gan: Tom Sharpe (Adran Ddaeareg) a Robert Protheroe Jones (Adran Diwydiant)
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment