Skip to main content

Pen Penywyrlod: wyneb dyn 6,000 o flynyddoedd oed

Ffynhonnell allanol:

Penglog brin o Oes y Cerrig

Mae penglog brin o Oes y Cerrig, a ddarganfuwyd mewn tomen gladdu ym Mhowys, wedi rhoi cyfle i wyddonwyr ail-greu wyneb dyn 6,000 o flynyddoedd oed, gan ddatgelu nad dyn ogof afrosgo mohono ond unigolyn digon tebyg o ran golwg i'r dyn modern.

Ym Mehefin 1972 ym Mhenywyrlod, ger Talgarth ym Mhowys, dechreuodd ffermwr gloddio blociau cerrig rhydd o dwmpath gwair yn un o'i gaeau. Roedd am ddefnyddio'r cerrig i greu seiliau caled ar gyfer buarth. Ymhen ychydig, daeth ar draws slabiau cerrig mwy yn leinio twll a oedd yn arwain yn ddyfnach i'r twmpath. Yn y siambr hon roedd pentyrrau o esgyrn dynol.

Tomen gladdu cynhanesyddol

Cysylltodd y ffermwr â Hubert Savory, archeolegydd o'r amgueddfa ac arbenigwr ar domenni claddu cynhanesyddol. Daeth Savory i weld y darganfyddiad newydd cyn gynted ag y gallai. Mae'n rhaid bod y darganfyddiad wedi ei synnu: roedd archeolegwyr wedi bod yn mapio tomenni claddu yn y rhan hon o Gymru am genedlaethau, ond dyma lle'r oedd yr enghraifft fwyaf, a'r gorau o ran cyflwr, ym Mhowys - roeddent wedi ei methu'n gyfan gwbl!

Dangosodd gwaith cloddio bod y domen yn fath o feddrod a ddefnyddiwyd tua 3,600 CC. Roedd yn cynnwys tomen garreg betryalog a oedd yn lletach ar yr ochr de-ddwyreiniol. Yma, roedd muriau'r domen yn crymu tuag i mewn i greu blaengwrt. Roedd nifer o siambrau, yr un fath â'r un a ddarganfuwyd gan y ffermwr, ar hyd ochrau'r domen. 

Penglog gyflawn

Erbyn i'r gwaith cloddio ddod i ben, roedd gweddillion o leiaf chwech o bobl wedi cael eu darganfod yn y siambrau. Ond y prif ddarganfyddiad oedd penglog gyflawn - darganfyddiad anghyffredin iawn - a oedd yn perthyn i ddyn a fu farw yng nghanol ei ugeiniau.

Nid yw'r benglog yn dangos beth oedd achos ei farwolaeth, ond mae'n dweud ychydig am y dyn ei hun. Roedd ei ddannedd mewn cyflwr da, ond roedd esgyrn ei drwyn ychydig yn gam ac roedd yn dioddef o anhwylder ar groen ei ben. Roedd esgyrn ei benglog wedi methu ag asio yn gyfan gwbl - canlyniad cyflwr etifeddol na fyddai wedi peri unrhyw anghyfleustra iddo, ond a fyddai wedi golygu bod ganddo dalcen lletach nag oedd yn arferol a gên banylog.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment