Popeth ond y sgrech
Y peiriant ailgylchu perffaith
Mae modd defnyddio pob darn o'r mochyn ond ei sgrech. Roedd y mochyn yn rhan bwysig o economi'r cartref. Ni fyddai dim ohono'n cael ei wastraffu.
Ar un adeg roedd moch yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y dref yn ogystal â'r wlad. Dyma i chi'r peiriant ailgylchu perffaith, a oedd yn troi gwastraff yn gynnyrch defnyddiol. Byddent yn bwrw troglwyth fawr o foch bach a gan eu bod yn fodlon bwyta pob dim, yn laswellt neu'n sbarion bwyd, roeddent yn pesgi'n gyflym. Roedd lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys a byddai cymdogion a chyfeillion yn aml yn cymryd eu tro i ladd eu moch a rhannu'r cig.
Hebrwng asgwrn
Byddai'r lladd yn digwydd rhwng dechrau Hydref a diwedd Mawrth, ac felly'n sicrhau cyflenwad cyson o gig ffres i deuluoedd trwy dymor y gaeaf. Y 'stecen felys' neu ddarnau o gig o'r asennau ac asgwrn y cefn fyddai'n cael eu rhannu fel arfer. Byddai ffagots a brôn hefyd yn cael eu paratoi a'u cynnig i deulu a chymdogion. Parhaodd yr arfer hwn tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y plant fyddai'n cael y pleser o fynd â'r rhoddion, a chaent rywfain o arian am eu trafferth. Mewn rhai ardaloedd, yr enw ar yr arfer hwn oedd hebrwng asgwrn. Byddai gweddill y mochyn yn cael ei halltu, a dyna oedd y prif ffynhonnell o gig ar gyfer y teulu am y flwyddyn.
Gwastraffu dim
Ni fyddai dim yn cael ei wastraffu. Byddai'r pen yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Roedd modd defnyddio blew'r mochyn i wneud brwshys, gwneud lledr o'r croen, gwneud pwdin gwaed o'r gwaed, a chwarae pêl-droed gyda'r bledren. Doedd dim rhyfedd felly fod cymaint yn cadw moch. Yn ôl rhai, daw'r enw Saesneg ar gadw-mi-gei o'r ffaith bod pobl yn bwydo eu harian mân i mewn i'r piggy bank. Wedi iddo dyfu'n ddigon tew byddai modd ei falu a chael at y cynilion y tu mewn.
Tystiolaeth lafar
"Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan, 'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, - a 'te - wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi 'ny, mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badall o refi da wedi neud efo'r nionod 'ma i gyd, 'te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn odd o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos ylwch."
Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Ynys Môn. Ganed 1904 (Recordiad AWC 3977/1)
Rysait: Cig Moch, Iau a Nionod
Yn ôl tystiolaeth o Rostryfan, yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer 'swper chwarel', sef y pryd min nos wedi i'r chwarelwyr ddychwelyd o'r chwarel.
hanner pwys o gig moch
pwys o iau
nionod
halen a phupur
ychydig o flawd gwyn
1. Torri'r iau'n dafelli, eu golchi, a'u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen.
2. Ffrio'r cig moch yn ysgafn a'i godi i ddysgl boeth.
3. Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i'r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu'n dda a'u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
4. Rhoi'r iau a'r nionod (wedi'u torri'n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda'i gilydd a'u codi i'r un ddysgl.
5. Berwi tatws mewn sosban ar wahân.
Casglwyd y rysait hwn yn Llŷn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment