Hanes hysbysebu ar ddechrau’r ugeinfed ganrif drwy gyfrwng Rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,188
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,047
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 787
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 746
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Hysbysebion i gyrraedd cynulleidfa

 

Gyda rhaglenni teledu newydd gael yr hawl i hysbysebu gwahanol ddeunyddiau a brandiau penodol am y tro cyntaf erioed yng nghorff rhaglenni, mae’r rheolau am beth y gellir ei hysbysebu’n llym, gyda rhoi sylw i rai pethau, fel baco ac alcohol wedi’u gwahardd yn gyfangwbl. Yn wir, fe fyddai’n wrthun ystyried hysbysebu’r fath bethau erbyn heddiw.

Ond stori wahanol iawn oedd hi flynyddoedd yn ôl, ac wrth astudio hen Raglenni Swyddogol a Rhestrau Testunau’r Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o ddathliadau 150 y sefydliad, mae’n amlwg sut mae hysbysebu wedi newid dros y ganrif ddiwethaf. Felly, beth am fynd ar daith drwy ddegawdau cynnar yr ugeinfed ganrif i ddechrau olrhain hanes hysbysebu yng Nghymru?

Mae’r daith yn cychwyn ym 1912, gydag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam – a Wrecsam, wrth gwrs yw cartref yr Eisteddfod yn 2011. Gyda rhaglen swmpus yn costio chwe cheiniog i’w phrynu, roedd hysbysebwyr o bob math yn awyddus i gael eu gweld yn y llyfryn hwn, a fyddai ar gael am rai wythnosau cyn i’r Eisteddfod gychwyn. Dyma sut oedd pawb yn cynllunio’u hymweliad â’r Eisteddfod yn ystod y cyfnod cyn y we, teledu a radio, ac mae’n amlwg bod busnesau a chwmnïau’n gweld y Rhaglen fel ffordd ardderchog o gyrraedd cynulleidfa bwysig.

Hysbysebion Saesneg

 

Yr hyn sy’n taro rhywun yn syth yw faint o Saesneg a ddefnyddiwyd mewn hysbysebion yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Ychydig iawn o gwmnïau neu fusnesau oedd yn dewis defnyddio’r Gymraeg, er bod hysbysebu’n y Rhaglen yn ffordd o gyrraedd cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Roedd nifer o’r hysbysebion yn 1912 yn gwerthu pob math o drugareddau – o blatiau a tseina i friciau a glo - y cyfan ar gael gan fusnesau lleol yn nhref Wrecsam.

Ceir amryw o hysbysebion gan siopau sy’n gwerthu dillad, gydag un cwmni’n datgan ‘No visit to the Eisteddfod can be a success unless you carry away with you one of our Noted Gents’ Suits or one of our Special Costumes…Our suits and costumes are sent to all parts of the Empire’ Gyda llun o wraig mewn gwisg Gymreig, gyda’r neges Cymry am Byth ar ben yr hysbyseb, mae’n amlwg bod cwmni R & T Sauvage o 1 Hope Street, Wrecsam wedi meddwl yn ofalus am sut i gyrraedd eu cynulleidfa darged.

Rhywbeth arall a fyddai’n cael ei hysbysebu’n rheolaidd yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd ffwr. Mae cwmni C.D.Jones, Ladies’ Outfitter, 3&4 Hope Street, Wrecsam, yn hysbysebu bod ganddynt ‘An early display of fashionable furs for the coming season’, a ‘We have bought carefully in the best Market of the FUR TRADE & for Variety, Good Taste & Moderate Prices the present range is the best we have ever exhibited.’ Roedd hysbysebion o’r fath i’w gweld yn y Rhaglen am gyfnod – yn 1929, roedd un cwmni ffwr – R Neill & Son Ltd o Lerpwl - yn hysbysebu gyda chartŵn o gwningen yn wylo i mewn i’w hances y tu allan i siop ffwr, gyda’r neges ‘Alas- my poor brother’ – rhywbeth a fyddai’n cael ei ystyried yn gwbl ddi-chwaeth erbyn heddiw.

Efallai mai’r hysbyseb mwyaf amlwg yw tudalen gefn y Rhaglen, hysbyseb ar gyfer Wrexham Lager Beers – cwmni lleol yn cefnogi’r ŵyl genedlaethol yn eu hardal hwy, meddech chi? Efallai wir, ond ar y pryd, ac am bron i ganrif arall, doedd dim bar ar y Maes a dim ffordd o brynu peint o lager nag unrhyw ddiod meddwol arall. Rhyfedd o beth felly bod golygyddion y Rhaglen yn fwy na pharod i gymeryd arian hysbysebu gan wneuthurwyr alcohol yn ystod y cyfnod dirwestol hwn.

Mae hysbyseb cwmni The Wrexham Taxi-Cab Co. a’u pencadlys yn Union Road, yn datgan ‘Cars will be available near Entrance to the Eisteddfod Pavilion’, a bod digonedd o deithiau ar gael ar gyfer ymwelwyr. Wrecsam 93 oedd y rhif ffôn ar gyfer unrhyw un a oedd yn awyddus i gysylltu, ac mae’r rhif ei hun, efallai, yn dangos pa mor anghyffredin a newydd oedd y syniad o gael ffôn yn 1912.

Un o ddigwyddiadau mawr y byd yn 1912 oedd trychineb y Titanic, a laddodd gannoedd o deithwyr ar eu ffordd i America. Mae’n deimlad od felly gweld hysbyseb ar gyfer y cwmni, White Star Line, a chwaer long y Titanic, HMS Olympic, yn Rhaglen yr Eisteddfod, ac mae’n gwneud i rywun feddwl a oedd yr hysbyseb wedi’i osod cyn taith y Titanic? Mae’r cwmni’n tynnu sylw at y ‘wireless telegraphy, orchestra and unsurpassed comforts’. Ond does dim sôn am y Titanic ei hun yn yr hysbyseb.

Effaith Rhyfel ar yr hysbysebion

 

Mae’n amlwg bod marchnad gref ar gyfer hysbysebion ganrif yn ôl, a busnesau o bob math yn hysbysebu, o gwmnїau mawr fel Fry’s Chocolate a Jacob’s Cream Crackers i sefydliadau fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a oedd yn cynnig cyrsiau am ffi o £13 1s y flwyddyn, gyda chostau labordy’n ychwanegol, ac mae enwau rhai o ddarlithwyr y coleg yn adnabyddus iawn i ni oll, yn enwedig cyn fyfyrwyr y brifysgol, John Morris Jones, H.R. Reichel a J.E. Lloyd, ill tri’n dysgu’n y coleg bryd hynny.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, Y Barri oedd cartref yr Eisteddfod – ac unwaith eto, fe fyddwn yn dychwelyd i’r ardal yn 2012, pan gynhelir Eisteddfod Bro Morgannwg yn Llandŵ. Efallai mai dim ond wyth mlynedd oedd wedi pasio ers Eisteddfod Wrecsam, ond roedd Cymru’n wlad hollol wahanol erbyn 1920.

Roedd y wlad, fel rhan helaeth o’r byd, wedi dioddef erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Eisteddfod ei hun wedi’i heffeithio, nid yn unig gyda gohirio Eisteddfod Bangor, 1914, am flwyddyn, ond hefyd gyda Chadair Ddu enwog Penbedw, a Hedd Wyn, Ellis Evans, a oedd wedi’i ladd yn Ffrainc ychydig wythnosau cyn y Brifwyl, yn ennill y Gadair.

Mae Rhaglen 1920 yn cynnwys dau neu dri o hysbysebion na fyddai wedi’u gweld yn y cyfnod cyn y Rhyfel Mawr – ‘A boon to the lame’ meddai un ohonyn nhw, wrth hysbysebu coesau a breichiau artiffisial. Mae’r cwmni, J.J. Stubbs & Son o Gaerdydd, yn datgan ‘The motions and actions are as near like a natural foot as possible, no springs, bolts, etc., to get out of order. The yielding and elastic qualities of rubber supply requisite motion; avoid all jars to the stump when walking; absolutely noiseless.’

Mae cwmni Allen Pearce, hefyd o Gaerdydd, sy’n ‘Artificial Limbs and Surgical Applicance Makers’ yn cynnig ‘Artificial legs: light weight and durable; crutches with non-slipping ends; trusses with or without steel bands’, ac ‘Artificial eyes: Patent mobile, snellen and shell patterns’. Mae gweld hysbysebion o’r fath yn Rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol yn dangos cymaint o effaith a gafodd y Rhyfel. Fe gollwyd rhan helaeth o genhedlaeth, a daeth llawer o fechgyn ifanc adref gyda’r angen am wasanaethau a chynnyrch busnesau fel Allen Pearce a J.J. Stubbs and Son.

Hysbysebion cyfnod llwm

 

Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae’n amlwg bod cysgod y Rhyfel yn parhau, gyda chwmni Samuel Welsby, Allerton Monumental Works, Lerpwl, yn hysbysebu’r ffaith eu bod nhw’n cynhyrchu cofebau rhyfel, gan ddangos darlun o’r gofeb yn Yr Wyddgrug fel enghraifft o’u gwaith

Ond roedd yr amrywiaeth eang o hysbysebion yn parhau yn y Rhaglen, hyd yn oed yn ystod cyfnod llwm fel yma. ‘Invest in a motor-cycle & side-car’ meddai cwmni Robert Bevan, Castle Street, Caerdydd wrthym. ‘The pleasures of the Country and the Seaside are within the reach of the proud possessor of one of these grand Machines… When in trouble give me a trial. I will see you through.’

Dyma gyfnod hysbysebion ar gyfer baco hefyd, gyda chwmni Thomas Nicholls & Co. o Gaer yn hysbysebu’n rheolaidd yn y Rhaglen am flynyddoedd yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn gwerthu Nicholls Union Jack Shag, gan ddweud ‘Critical Smokers say: “Should be in everyone’s mouth”’. Fyddai hysbyseb o’r fath byth yn gweld golau dydd y dyddiau yma.

Ac er ein bod ni heddiw, efallai, yn meddwl bod ein systemau feiral, cyfrifiadurol a chymdeithasol o hyrwyddo a hysbysebu’n well na phopeth a fu, roedd yr Eisteddfod ei hun yn eithaf soffistigedig yn ei ffordd o ennyn cwmnїau i osod hysbyseb yn y Rhaglen bron i ganrif yn ôl, gan benodi asiant i gasglu hysbysebion.

Cwmni Hugh Evans & Sons o Lerpwl, cyhoeddwyr papur newydd Y Brython oedd yn gyfrifol am y gwaith, ac mae’u hysbyseb hwy yn Rhaglen 1920 yn nodi ‘An exceptionally effective medium to advertise in and one in which you make your appeal to a thoughtful class of people and one from which satisfactory results are assured is The Official Programme of the National Eisteddfod of Wales’, gan annog busnesau i hysbysebu yn Rhaglen y flwyddyn ganlynol. Mae hysbysebion o’r fath yn ymddangos am nifer o flynyddoedd, a chyda cynifer o fusnesau’n dewis gwerthu’u cynnyrch a’u gwasanaethau ar dudalennau’r Rhaglen, mae’n amlwg bod Hugh Evans & Sons yn arbennig o dda wrth eu gwaith.

Hysbysebion Cymraeg

 

Erbyn 1931 ac Eisteddfod Bangor, roedd y gwaith o drefnu hysbysebion wedi symud i gwmni o Wrecsam, Hughes a’i Fab, ond mae’n anodd gweld pryd yn union y digwyddodd hynny, ond roedd ychydig o newid yn y ffordd o hysbysebu i’w weld yn y Rhaglen rai blynyddoedd cyn hynny. Lerpwl oedd cartref yr Eisteddfod yn 1929, ac erbyn hyn rydym yn gweld ychydig mwy o fusnesau a sefydliadau’n dewis defnyddio’r Gymraeg wrth hysbysebu, gyda nifer yn cymeryd dwy dudalen er mwyn rhedeg hysbyseb yn y ddwy iaith.

Ai newid cyffredinol mewn agwedd oedd hyn tybed, neu a oedd yr asiant hysbysebu newydd yn annog rhagor i ddefnyddio’r Gymraeg? Beth bynnag yw’r rheswm, rydym yn gweld yr hen University College of North Wales yn cael ei hysbysebu rwan fel Coleg y Gogledd, Bangor, ac mae cwmnïau fel y Liverpool Gas Company hefyd yn defnyddio’r Gymraeg. Mae hysbyseb y cwmni hwnnw’n dweud, ‘Mae nwy yn foddion i dwymno eich Cartref yn gysurus, i’w oleuo hefyd, i sicrhau coginio’r bwyd mewn modd y gellir llwyr ddibynnu arno, ac i ddarpar digonedd o ddŵr poeth, a’r cwbl yn hwylus ac heb afradedd.’

Yn ogystal â’r hysbysebion lleol, mae’r cwmnїau mawr yn dal i ddefnyddio’r Rhaglen er mwyn cyrraedd eu cynulleidfa. Yn 1929, roedd cwmni olew BP, jam Hartley’s, Jacob’s Cream Crackers, a’r banciau i gyd yn hysbysebu yn y Rhaglen, ynghyd â’r Daily Post, papur sydd yn dal â chysylltiad agos gyda’r Eisteddfod, yn datgan ‘Eisteddfod – you will find detailed reports every day in the Liverpool Daily Post’, ac yn wir, mae hyn yn parhau bron i dri chwarter canrif yn ddiweddarach.

Ac yn olaf, dyma edrych ar hysbyseb hanner tudalen yn Rhaglen 1931, pan fu’r Eisteddfod ym Mangor, gan y BBC – ond nid ymgais gynnar iawn i apelio i gynulleidfa Gymreig gan y gorfforaeth ddarlledu yw hwn – ond yn hytrach y Bangor, Bethesda & District Co-operative Society Limited!

Roedd degawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf yn gyfnod o newid mawr yn y byd, ac mewn ffordd, gellir defnyddio Rhaglen yr Eisteddfod a’r hysbysebion ynddi fel ffenestr ar y newid hwn. Roedd rhagor o newid ar y ffordd, rhyfel byd arall a thechnoleg yn datblygu’n llawer cyflymach, ac anghenion ymwelwyr a’u diddordebau hefyd yn newid. Bydd cyfle i edrych a thrafod rhai o’r rhain drwy hysbysebion Rhaglen yr Eisteddfod yn yr erthygl nesaf a fydd yn edrych ar y cyfnod 1935 – 1960.

Oes gennych chi ragor o wybodaeth neu ddelweddau yn ymwneud â'r stori yma? Ymunwch a Chasgliad y Werin Cymru, a llwythwch eich eitemau eich hun!