Gwaith Dur Glynebwy ar Ffilm

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,226
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,260
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,333
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,515
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,492
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,006
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Richard Thomas a Baldwin




Dechreuodd pennod newydd yn hanes y gweithfeydd dur ym 1935 pan gymrodd Richard Thomas & Co. Cyf yr awenau ac adeiladwyd y felin strip barhaol gyntaf y tu allan i UDA yng Nglynebwy. Cynyddodd cynhyrchu yn ystod y cyfnod hwn ac roedd gan y gweithfeydd newydd allu cynhyrchu 600,000 tunnell y flwyddyn; gwaith dur cyfannol cyntaf Ewrop.



Ym 1945 cyfunodd Richard Thomas & Co Cyf â Baldwin Cyf i greu Richard Thomas and Baldwin, un o'r cwmnïau mwyaf ym Mhrydain. Byddai RTB yn dod yn gyflogwr pwysig ac uchel ei barch yn ardal Glynebwy, yn cyflogi dros 10,000 o bobl yn ei anterth. Nid yn unig oedd datblygiad safle'r gwaith dur wedi cynyddu cynhyrchu, ond roedd hefyd wedi adfywio ardal Glynebwy. Denodd yr addewid o waith llafurio yn talu'n dda'r rheini a fu rhaid iddynt adael yn ystod y 1930au yn ôl i'r dref, yn ogystal â nifer mawr o fewnfudwyr yn chwilio am waith.



Cynhyrchwyd y ffilmiau hyn gan Ingot Pictorial yn ystod y 1950au a'u bwriad oedd cyflwyno'r cwmni a phrosesau'r gweithfeydd dur i weithwyr hen a newydd. Mae'r ffilmiau'n rhoi mewnwelediad cyfareddol i un o gwmnïau mwyaf Prydain a bywydau ei weithwyr.




Nid oedd bob amser fel hyn




Cyfuniad Richard Thomas a Baldwin oedd y bennod ddiweddaraf o lawer yn hanes diwydiant yng Nglynebwy. Mae'r ffilm hon o 1918 yn dangos y prosesau a ddefnyddiwyd yn y gweithfeydd ar y pryd. Roedd y rhyfel wedi achosi cynnydd mewn lefelau cynhyrchu a diwydiant ar draws y wlad ac nid oedd Glynebwy'n eithriad. Cynyddodd y galw am ddur a chododd allgynnyrch y gweithfeydd fel canlyniad. Sefydlwyd ffatri ffrwydron yno ym 1915 fel rhan o ymdrech y rhyfel, yn cyflogi merched yn bennaf.



Roedd y prosesau yn y gweithfeydd dur ym 1918 ymhlith y mwyaf blaengar o'u cyfnod ac yn y flwyddyn honno dechreuwyd gwaith adeiladu dwy ffwrnais ychwanegol yn Victoria yn cynhyrchu 2,750 tunnell yr wythnos yr un.



Ond bu'r ffyniant hwn yn un byrdymor, ac fe effeithiodd y wasgfa wedi'r rhyfel ar gynhyrchu yng Nglynebwy wrth i brisiau haearn a dur gwympo. Roedd cystadleuaeth o Ewrop yn golygu y byddai gallu cynhyrchu'r gweithfeydd yn disgyn i 75% ym 1925. Roedd gobaith, er hynny, wrth i gynhyrchu codi eto tua diwedd y 1920au, ac roedd lefelau cynhyrchu bron mor uchel ag oeddent yn union wedi'r rhyfel. Bu buddsoddi newydd mewn peiriannau a phrosesau, ond caewyd y gwaith dur ym 1929 gyda cholled o tua 4,000 o swyddi. Roedd yn ergyd caled i gymuned a oedd yn dibynnu cymaint ar y gweithfeydd dur am gyflogaeth.




Yr "Oes Aur"




Roedd sefydliad Richard Thomas Baldwin yn golygu hwb newydd i'r gwaith dur ac i'r gymuned o'i gwmpas. Anogwyd y cwmni i fuddsoddi yn y gweithfeydd gan y llywodraeth a oedd yn pryderu ynglŷn â lefelau diweithdra yn yr ardal.



Comisiynwyd y llinell tunplatio electrolytig gyntaf yn Ewrop yng Nglynebwy ac roedd melin rolio pum stand y gweithfeydd yn cynhyrchu tun ar gyfer tuniau bwyd ar draws y byd.



Bu gwladoli'r diwydiant dur yn fyrdymor wrth i lywodraeth Lafur Atlee gael ei disodli gan y Ceidwadwyr ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ond parhaodd Richard Thomas and Baldwin yng ngofal y wladwriaeth ac fe barhaodd i ddatblygu'r safle yng Nglynebwy.



Cafodd y diwydiant dur yng Nghymru ei chwyldroi gan fuddsoddiadau yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel ac er bod y gweithfeydd yng Nglynebwy eisoes yn defnyddio technegau a dulliau blaengar. Roedd y gweithfeydd eraill yn Shotton a Chaerdydd hefyd wedi gwella'u prosesau. Erbyn 1955 Cymru oedd yn gyfrifol am chwarter y dur a gynhyrchwyd ym Mhrydain.



Roedd y 1950au'n ddegawd llwyddiannus i'r diwydiant dur yng Nglynebwy ac roedd aelodau staff Richard Thomas and Baldwin yn cael eu cyflogi mewn un o'r gweithfeydd prysuraf ym Mhrydain.




Rhesymoliad a dirywiad




Ym 1967 sefydlwyd y Gorfforaeth Ddur Brydeinig ac roedd Richard Thomas and Baldwin yn ffurfio rhan o Grŵp De Cymru. Cyhoeddwyd cynllun rhesymoli deng mlynedd a oedd ar y dechrau'n rhoi gobaith i'r diwydiant dur, ond erbyn dechrau'r 1970au roedd yn glir fod dur o Gymru'n cael ei brisio allan o'r farchnad gan felinau tramor. Cyhoeddwyd diswyddiadau mawr ym 1972 ac fe fyddai 4,500 o swyddi'n cael eu colli yng Nglynebwy.



Roedd y 1970au cynnar yn flynyddoedd cymysg yng Nglynebwy; roedd datblygiadau i'r melinau tunplat ond caewyd y ffyrnau golosg, y siop drawsnewidydd a'r ffwrneisi chwyth oll erbyn 1977.



Roedd dicter yng Nglynebwy am raddfa'r diswyddiadau ac ym 1972 gorymdeithiodd y gweithwyr mewn protest. Disgrifiodd Michael Foot, yr Aelod Seneddol lleol ar y pryd, am annerch y dorf fel 'diwrnod gwaethaf fy ngyrfa'.




Dymchwel




Erbyn y 1980au, roedd diwedd gweithfeydd Glynebwy yn agos. Cynhaliwyd Streic Dur Cenedlaethol rhwng Ionawr ac Ebrill 1980 i brotestio yn erbyn dirywiad y diwydiant ond erbyn 1981 roedd y gwaith wedi hen ddechrau ar ddymchwel y gweithfeydd yng Nglynebwy.



Er i gynhyrchu tunplat barhau tan 2001, roedd yn ffracsiwn o'r hyn a fu. Ar 1 Chwefror 2002, cyhoeddwyd cau gweithfeydd Glynebwy'n llwyr, gyda cholled derfynol o 780 o swyddi.




Gŵyl Erddi Genedlaethol Cymru




Trawsnewidiwyd safle'r hen weithfeydd dur yn safle Gŵyl Erddi Genedlaethol Cymru. Heidiodd dros ddwy filiwn o ymwelwyr i'r digwyddiad a barhaodd am chwe mis ar hen safle'r gweithfeydd dur. Roedd y digwyddiad yn symbol o adfywiad a dadeni ardaloedd fel Glynebwy, gyda digwyddiadau tebyg wedi'u cynnal mewn mannau fel Lerpwl, Glasgow a Gateshead.



I lawer o bobl o oed penodol, mae'n siŵr fod Glynebwy'n cael ei gofio orau am yr Ŵyl Erddi!