Cwmni Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,142
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,436
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,088
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 954
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,317
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 960
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 961
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 880
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,232
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 846
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Cwmni Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company




Sefydlwyd cwmni Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company yn y De ym 1790, ac roedd y cwmni'n cynhyrchu mwy o dunplat nag unrhyw le arall yn y wlad nes iddo gau yn 2002.



Roedd yn cyflogi 34,000 o ddynion yn y cyfnod Edwardaidd, ac erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ar flaen y gad ym maes datblygiadau technolegol, yn enwedig mewn trosi haearn i ddur. Goroesodd holl weithfeydd haearn a dur eraill Blaenau'r Cymoedd a thorrodd dir newydd ym Mhrydain sawl gwaith o ran technoleg ar ôl iddo gael ei ailadeiladu'n llwyr ym 1936-38. 




Dechrau'r Daith




Roedd Gweithfeydd Haearn Glynebwy yn un o gyfres o weithfeydd a sefydlwyd ar hyd ymyl ogleddol maes glo'r De lle'r oedd modd cloddio'r holl ddeunyddiau crai ar gyfer gwneud haearn - mwyn haearn, glo a charreg galch.



Fe'i sefydlwyd ym 1790 gan bartneriaeth dan arweiniad Jeremiah Homfray, perchennog Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Ym 1796 gwerthodd y gwaith i deulu Harford, a nhw fu wrth y llyw am yr hanner can mlynedd nesaf. Adeiladwyd tair ffwrnais chwyth arall, ffwrneisi pwdlo i gynhyrchu haearn gyr a melinau rholio i wneud rheiliau, yn y cyfnod hwn. Er mwyn cael rhagor o haearn gyr ar gyfer y ffwrneisi a'r melinau prynodd y teulu dair ffwrnais chwyth yn Sirhywi ym 1818.




Ehangu




Aeth teulu Harford yn fethdalwyr ym 1842 pan fethodd eu buddsoddiadau tramor. Ymddiriedolwyr aeth ati i gynnal y gweithfeydd ac ym 1844 sefydlwyd Cwmni Glynebwy gan Abraham Darby IV, meistr haearn o Coalbrookdale a oedd wedi hanner ymddeol.



Ehangodd y cwmni'n gyflym gan brynu Gwaith Haearn Victoria gerllaw ym 1848, Gwaith Haearn Abersychan ym 1852, Gwaith Haearn Pentwyn ym 1858 a Gwaith Haearn Pont-y-pŵl ym 1872. Roedd y mwynau haearn lleol wedi'u disbyddu felly prynodd y cwmni gloddfeydd haearn yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerloyw a Sbaen yn ystod y 1850au.



Rhwng 1854-55 bu George Parry, cemegydd y gwaith, yn arbrofi gyda chynhyrchu dur and ni chynhyrchwyd dur yn rheolaidd nes i'r cwmni sefydlu gwaith Bessemer ym 1868.




Dirywio




Ailffurfiwyd y cwmni fel yr Ebbw Vale Steel, Iron & Coal Company Limited ym 1868. Roedd yr ehangu parhaus ar ddechrau'r 1870au wedi costio'n ddrud i'r cwmni pan ddaeth y dirwasgiad ar ddiwedd y degawd. Daeth dur i ddisodli haearn a dirywiodd y fasnach haearn - yn ffodus roedd Cwmni Glynebwy wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu dur.



O 1873, cyllidwyr o Fanceinion, nad oedd yn deall y farchnad haearn a dur i bob golwg, oedd wrth y llyw. Dirywiodd y gweithfeydd; caeodd Pentwyn ym 1868, Sirhywi ac Abersychan ym 1882-83, Pont-y-pŵl ym 1890, ac erbyn 1892 roedd y cwmni mewn trafferthion ariannol difrifol, gyda'r gwaith yn segur a'r peiriannau mewn cyflwr gwael.




Newid cyfeiriad – y galw di-ben-draw am lo o Gymru




O'r 1870au ymlaen, nid haearn a dur oedd yn gyfrifol am lwyddiant y cwmni, ond glo. Erbyn 1873 ef oedd cynhyrchwr glo mwyaf y De, ond roedd y rhan fwyaf o'i lo yn cael ei ddefnyddio mewn ffwrneisi golosg a pheiriannau ager y gweithfeydd haearn.



Yn y 1870au a'r 1880au arallgyfeiriodd y cwmni i fanteisio ar y galw cynyddol am lo rhydd Cymru i yrru llongau, trenau a pheiriannau ager y byd.



Wrth i lofeydd hynaf ardal Glynebwy gau, suddwyd dau bwll newydd - Waunlwyd (1874-77) a Glofa Marine yng Nghwm (1889-91). Cyn bo hir roedd glo Glynebwy i'w weld ledled y byd.



Gan fod galw di-ben-draw am lo rhydd Cymru yn ystod ugain mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd modd i'r cwmni ehangu'n gyflym a moderneiddio ei lofeydd. Caewyd rhai o'r hen lofeydd a dyblwyd y gwaith yn Waunlwyd a'r Marine.



Mewn ugain mlynedd dyblwyd cynnyrch y cwmni i 2 filiwn o dunelli. Golygai rhagor o lo mwy o lowyr a chododd nifer y glowyr yng ngweithlu'r cwmni i bron 6,000. Codi'n ddramatig fu hanes yr elw hefyd.




Moderneiddio




Ym 1892, haearn a dur oedd wrth wraidd gwaith y cwmni unwaith eto. Roedd mewn sefyllfa ariannol sefydlog ac ym 1897 dechreuwyd ehangu a moderneiddio'r cwmni. Ym 1910 daeth nifer o berchnogion glofeydd yn gyfarwyddwyr ar y cwmni, o dan arweiniad Is-Iarll Rhondda.



Oherwydd y credent y byddai canolbwyntio ar lo'n unig yn cynyddu'r elw, caewyd y gweithfeydd haearn a dur ym Mai 1911. Ond ni wireddwyd eu gobeithion ac ailagorodd y gweithfeydd yn Ebrill 1912.



Codi'r melinau llenfetel oedd y gwaith ehangu olaf a wnaed cyn y Rhyfel Mawr ym 1912.



Rhwng 1918 a 1920 cynyddodd cyfalaf y cwmni o £1.8 miliwn i £7.7 miliwn a dechreuwyd ar ehangu pellach. Adeiladwyd dwy ffwrnais chwyth fodern yn Victoria ym 1920-23 yn lle'r pedair hen ffwrnais chwyth yng Nglynebwy. Sefydlwyd peiriannau i gynhyrchu trawstiau rheilffordd dur a thiwbiau a chyplau diweldiad. Fodd bynnag, bu tranc yn hanes y fasnach ryngwladol mewn haearn a dur ar ddechrau'r 1920au.




Cyfnodau cythryblus




O'r 1920au, daeth oes aur dechrau'r ganrif i ben. Wrth i longau droi at danwydd olew, dirywiodd y farchnad allforio glo. Ar ôl 1922 trodd elw mawr y cwmni yn golledion mawr.




Cau




Y blynyddoedd tywyll oedd y 1920au a'r 1930au wrth i gyflogau ostwng, pyllau gau ac wrth i ddiweithdra gynyddu. Bu cyfnodau o anghydfod diwydiannol hir a chwerw ym 1921 a 1926, a chafodd argyfwng ariannol 1929 effaith enbyd ar gwmni Glynebwy. Caeodd ei weithfeydd, gan adael bron i hanner trigolion y dref yn ddi-waith.



Ym 1935 daeth y cwmni i ben a gwerthwyd ei holl lofeydd i Partridge Jones a John Paton Cyf., y perchennog glofeydd mwyaf yng nghymoedd Gwent. 




Ailadeiladu




Er mwyn gallu cystadlu'n rhyngwladol, roedd angen melin strip ddur fel rhai yn America ar ddiwydiant tunplat Prydain. Y bwriad oedd codi melin strip newydd yn Swydd Lincoln, ond yn dilyn ymyrraeth y Llywodraeth bu'n rhaid ei hadleoli i Lynebwy. Ym 1936-38 cliriwyd yr hen weithfeydd ac adeiladwyd gwaith haearn, dur a thunplat integredig.



Pan wladolwyd y diwydiant cyfan ym 1947, daeth glofeydd Cwmni Glynebwy yn eiddo i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Yn y flwyddyn honno roedd tri phwll yn dal i gynhyrchu glo - Waunlwyd, Cwmcarn a Marine. Fe'u caewyd ym 1964, 1968 a 1988.




Hyd at heddiw




Adeiladwyd y llinell electrolytig gyntaf y tu allan i'r Unol Daleithiau yng Nglynebwy ym 1947-48. Ehangwyd y gweithfeydd Bessemer a'r gweithfeydd dur tân agored ac ym 1960 gosodwyd trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gweithfeydd. Cyn bo hir disodlodd y rhain holl weithfeydd Bessemer a thân agored y Deyrnas Unedig. Gosodwyd dwy linell dunio electrolytig arall ym 1961 a 1969, ac ychwanegwyd llinellau galfanu ym 1957 a 1969.



Yn sgil y gwladoli ym 1967 cynhyrchwyd llai o ddur yng Nglynebwy ac fe gaeodd y gwaith dur ym 1978.



Tan iddo gau yn 2002, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar dunplat a galfanu, a dyma oedd y cynhyrchydd tunplat mwyaf Prydain.