Durga

Eitemau yn y stori hon:

  • 856
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 837
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Durga




Am dair wythnos yng ngwanwyn 2009 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, bu dau artist o India yn creu delweddau prydferth o'r Dduwies Durga a'i theulu. Fesul wythnos trawsffurfiwyd deunyddiau syml fel clai, papier mache, gwellt a phren yn gelfydd i greu cerfluniau manwl - pob un ohonynt â'u symbolau a'u hystyron eu hunain. Fe'u gwnaed ar gyfer Pwyllgor Puja Cymru - grŵp Hindŵaidd sydd wedi addoli yng Nghymru ers y 1970au. Gan fod eu delwedd o'r Dduwies Durga yn hen a threuliedig roedd angen un newydd arnynt. 



Durga yw'r Fam-dduwies anorchfygol, sy'n marchogaeth i'r frwydr ar gefn llew. Fe'i crêwyd gan y Duwiau pan oedd drygioni'n bygwth y Bydysawd. Hi yw 'Shakti'; y pŵer dwyfol i wrthsefyll, amsugno ac ymladd pwerau'r fall. Trwy gydol yr addoli, a elwir yn Puja, mae Hindŵiaid yn dathlu buddugoliaeth Durga dros ddrygioni. 



Fe'i gwelwch yma yn ei holl brydferthwch yn arddangos cryfder, cynhesrwydd a chariad mamol. Saif yn falch ar gefn llew wrth iddi ladd Brenin y demoniaid, Mahisasura. Gyda hi mae ei dau fab, Ganesh a Kartikeya, a'i dwy ferch, Lakshmi a Saraswati. 




Dau artist llwyddiannus




Daw'r ddau artist llwyddiannus - Purnendu a Dubyendu Dey - o Kolkata, India. Trwy gydol y broses o greu dilynwyd defodau crefyddol arbennig. Y pwysicaf ohonynt oedd Chakkshu Daan - Paentio'r Llygaid. Daeth Purnendu â Durga'n fyw drwy beintio'i llygaid yn ofalus. O'r pwynt hwn ymlaen addolir delwedd o'r Dduwies fel petai ganddi'r holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi. 



Mae'r Pujas yn cychwyn ar chweched diwrnod Navaratri, sef y naw noson o ddefodau i'r Dduwies Durga, gyda chroeso i'r Dduwies a'i theulu. Caiff mantrâu eu llafarganu yn Sansgrit, a chyflwynir offrymau i erfyn am fendith y Dduwies wrth ymladd drygioni. 



Ar ôl naw niwrnod, daw'r Dushera, y diwrnod olaf. Dyma'r diwrnod i ffarwelio â'r Fam Dduwies a'i theulu. Yn India, fe'u dodir yn nyfroedd yr afon Ganges, gyda'r gobaith o'i chroesawu'n ôl y flwyddyn ganlynol. Yng Nghymru, fe'u storir yn ofalus ar gyfer y flwyddyn ganlynol.