Dr William Price, arloeswr amlosgi

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,703
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,855
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,433
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,186
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Unigolyn hynod




Nid yw noethlymunwr llysieuol a gredai mewn cariad rhydd a meddyginiaethau llysieuol yn berson y byddech yn cysylltu â Chymru yn y 19eg ganrif. Ond roedd Dr William Price yn un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar ei gyfnod.



Cafodd ei eni yn Rhydri ger Caerffili ym 1800 a hyfforddodd fel meddyg yn Ysgol Frenhinol y Llawfeddygon yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yn ardal Glan-bad, ger Pontypridd. Wrth iddo weithio fel meddyg yn ardal Pontypridd a Threfforest daeth yn enwog am ei anghonfensiynoldeb, gan wrthod trin cleifion a ysmygai gan ei fod yn casáu'r arfer.




Dulliau anarferol




Cyhoeddodd Price ei fod yn archdderwydd, a gwisgai gwasgod goch, trowsus gwyrdd a het o groen cadno pan fyddai'n perfformio seremonïau derwyddol wrth y Maen Chwyf, Pontypridd. Byddai hefyd yn cerdded yn bell yn noeth, ymddygiad a enillodd enw iddo'n gymeriad hynod yn ardal Llantrisant.



Yn annhebyg i feddygon eraill ei gyfnod, roedd Price yn hyrwyddo meddyginiaethau llysieuol ac fe fyddai'n rhoi ei ffisig ei hun i'w gleifion. Enillodd hyn enw iddo fel cwac ond mae'n ymddangos yn sicr ei fod ef yn gweld gwaith ei gyfoedion yr un ffordd, gan gondemnio'u meddyginiaethau traddodiadol. Roedd hefyd yn llysieuydd ac yn gwrthwynebu bywddifyniaeth a brechu.




Credoau Siartaidd




Roedd Price yn casáu'r gyfraith a'i gweinyddwyr, ac roedd yn Siartydd brwd. Chwaraeodd ran yng nghynllunio gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd ym 1839  drwy drefnu cyflenwad o arfau. Er na gymrodd rhan yn y gwrthryfel ei hun, dihangodd i Baris yn syth wedyn.




Arloeswr amlosgi




Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd yn ei wythdegau, cyfarfu a chwympodd mewn cariad â merch degawdau'n iau nag ef o'r enw Gwenllian Llewelyn. Hi oedd ei wraig cadw tŷ ac fe gawsant tri o blant gyda'i gilydd. Enwyd un ohonynt yn Iesu Grist Price, yn fwy na thebyg er mwyn gwylltio'r eglwyswyr lleol, gan fod Price yn gwrthwynebu crefyddau uniongred. Bu farw Iesu yn ei fabandod, ac fe benderfynodd ei dad amlosgi corff ei fab, y weithred y mae Price yn cael ei gofio amdani fwyaf. Ar 18 Ionawr 1884, llosgodd gorff y plentyn o flaen gwylwyr ar ochr bryn yn Llantrisant. Credai Price fod amlosgi'n arfer Celtaidd hynafol.



Cafodd ei erlyn am y weithred ym Mrawdlys y Gaeaf yng Nghaerdydd ond cafodd y rheithgor ef yn ddieuog. Sefydlodd y dyfarniad gynsail ar gyfer cyfreithlondeb amlosgi ym Mhrydain, ac fe gafodd glod oddi wrth ei hyrwyddwyr, er mai ei gred dderwyddol oedd ei gymhelliad.



Bu farw Price yn Llantrisant mewn tlodi cymharol ar 23 Ionawr 1893. Gadawodd gyfarwyddiadau manwl am amlosgiad ei gorff mewn llen o haearn bwrw ar Fryn Cae'r-lan, ger Llantrisant.



Mae ei ymddygiad hynod a'i anuniongrededd wedi sicrhau ei fod yn cael ei gofio hyd heddiw.