Skip to main content

Trychineb yn Senghenydd

Amgylchiadau peryglus

Ar ddydd Mawrth 14 Hydref 1913, digwyddodd y trychineb gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru yn Senghenydd ger Caerffili. Roedd pentref Senghenydd wedi tyfu o amgylch pwll glo cwmni Universal Steam Coal Company pan ddechreuwyd cloddio yno yn ystod y 1890au. Gydag ehangiad maes glo De Cymru a'r cynnydd yn y galw am lo gwelwyd pyllau'n cloddio'n ddyfnach ac yn prysuro, gyda phwyslais ar gynhyrchedd a phroffidioldeb. Roedd gweithio mewn pyllau glo dwfn yn beryglus ac roedd yr amodau'n wael; roedd gweithio mewn lleoedd cyfyng, llifogydd, nwy a llwch glo yn beryglon cyson ac yn rhan o fywyd dyddiol y glowyr.

'Agwedd drasig y diwydiant glo'

Ym 1913, cyrhaeddodd llwyddiant y maes glo ei anterth, pan gynhyrchwyd dros bedwar deg chwe miliwn tunnell o lo. Ond, yn drist, yn yr un flwyddyn, digwyddodd yr hyn mae Dr John Davies wedi ei ddisgrifio'n 'agwedd drasig y diwydiant glo', sef Trychineb Senghenydd. Lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn gan ffrwydrad a ddinistriodd ochr orllewinol y lofa ar ddydd Mawrth 14 Hydref. Bu ffrwydrad difrifol eisoes ym 1901 pan laddwyd 82 o weithwyr. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw gwnaethpwyd nifer o argymhellion yn ymwneud â diogelwch mewn pyllau glo dwfn ac er bod pawb yn ymwybodol o'r peryglon, cynyddodd cynhyrchu a nifer y glowyr yn gweithio yn y diwydiant peryglus hwn.

Un wreichionen

Mae'n debyg mai gwreichionen yn cynnau poced o losgnwy ac yna'r llwch glo ar y waliau a'r lloriau a achosodd y ffrwydrad. Byddai'r ffrwydrad yna wedi teithio drwy'r pwll a byddai'r dynion hynny na laddwyd ar unwaith gan y ffrwydrad wedi cael eu mygu gan nwyon gwenwynig dan ddaear.

Erlynwyd y rheolwr a pherchnogion y lofa, ond er mawr siom i'r teuluoedd galarus, gollyngwyd yr holl gyhuddiadau yn erbyn y perchnogion a gorfodwyd i'r rheolwr dalu dirwy o £24. Yn yr apêl gorfodwyd y perchnogion i dalu dirwy o £10 a chostau o £5.5s.

Parhaodd mwyngloddio yn y pwll tan 1928. Mae tair cofeb i'r colledig yn bodoli; dadorchuddiwyd y gyntaf ym 1981.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment