Croesi'r Fenai

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,189
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 879
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 858
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Cyn adeiladu'r pontydd

Am ganrifoedd, roedd teithio i Ynys Môn o dir mawr Cymru'n beryglus iawn. Mae llanw'n dod o ddau gyfeiriad ac yn creu cerrynt cyflym a throbyllau sy'n gallu suddo cychod bach yn hawdd, ac mae hefyd pedwar llanw bob dydd. Byddai porthmyn yn nofio anifeiliaid ar hyd y Fenai pan oedd y môr ar drai. Pan mae hi'n drai, dim ond 18 modfedd o ddyfnder yw'r dŵr mewn mannau, ond mae'n anodd iawn cerdded ar draws y traethellau.

Mi roedd sawl fferi yn croesi'r Fenai mewn gwahanol fannau, ond yn aml byddent yn dymchwel, neu'n suddo, a byddai pobl yn colli eu bywydau'n aml. Yr achos gwaethaf oedd ym 1785, pan aeth cwch yn cario 55 person arni'n sownd mewn traethell ar lan ddeheuol Afon Menai. Wrth iddynt geisio rhyddhau'r cwch, dechreuodd lenwi â dŵr. Clywodd achubwyr yng Nghaernarfon am yr argyfwng, ond gyda'r gwynt yn uchel a hithau'n tywyllu, a'r perygl o ddryllio'u hunain ar greigiau, ni lwyddodd y bad achub gyrraedd y cwch. Un person yn unig a oroesodd.

Pan ymunodd Iwerddon â Phrydain Fawr yn sgil Deddfau Uno 1800, bu cynnydd mawr yn y niferoedd a oedd eisiau croesi'r afon er mwyn teithio ymlaen i Gaergybi ac yna i Ddulyn. Daeth y ffordd rhwng Llundain â Chaergybi'n un bwysig iawn, gan mai hi oedd y cyswllt rhwng Iwerddon a'r Senedd yn Llundain. Roedd y daith o Lundain i Gaergybi yn cymryd tua 36 awr; ar ôl agor Pont Menai ym 1826, gostyngodd i 27 awr! Erbyn heddiw, wrth ddefnyddio traffyrdd, ceir modern a Phont Menai gellir cwblhau'r daith mewn llai na saith awr!

Pont Grog Menai

Wrth i draffig o Lundain i Gaergybi gynyddu erbyn 1819, cafodd y peiriannydd sifil, Thomas Telford, ei ddewis i adeiladu pont dros y Fenai. Un peth hanfodol yn y cynllun oedd bwlch o gan troedfedd o dan y bont, er mwyn caniatáu i gychod hwylio uchel fynd o dan iddi heb drafferth, a oedd yn boblogaidd iawn ar y Fenai, hwylio oddi tani. Penderfynwyd mai pont grog fyddai'r unig ffordd i wneud hyn, gydag un ar bymtheg o gadwyni'n cynnal ffordd 579 troedfedd o hyd rhwng dau dŵr.

Er i berchnogion fferïau wrthwynebu, fe ddechreuwyd ar adeiladu'r bont ym 1819. Defnyddiwyd carreg o Chwarel Penmon, ar ochr ogleddol y Fenai, ar gyfer y bwâu, ac roedd y garreg yn cyrraedd safle'r bont ar gychod. Daeth y gwaith haearn o ffowndri Hazeldean ger Yr Amwythig ac er mwyn rhwystro'r haearn rhag rhydu, fe'i hirwyd ag olew had llin cynnes. Gorffennwyd y gwaith carreg ym 1824, a dechreuwyd ar y dasg enfawr o godi'r cadwyni fyddai'n dal y bont yn ei lle, a'u hangori yn y creigiau ar y naill ochr.

Y gadwyn gyntaf i'w diogelu oedd yr un ar ochr Caernarfon, a gadawyd i'r gadwyn hongian o'r tŵr i'r dŵr. Gwnaed yr un peth ar ochr Sir Fôn. Yna llwythwyd y gadwyn ganolog, a oedd yn pwyso 23.5 tunnell, ar rafft, a'i symud yn ofalus rhwng y tyrau a chysylltu'r ddwy gadwyn a oedd yn hongian. Gyda chymorth system pwli a rhaff, tynnodd 150 o ddynion y gadwyn i frig y tŵr ar ochr Ynys Môn. Roedd tyrfa o bobl wedi ymgasglu i wylio, ynghyd â band drwm a chwibanau a oedd yno i annog y gweithwyr! Dros y deng wythnos nesaf codwyd gweddill y cadwyni yn yr un modd.

Agorodd y bont yn swyddogol ar 30 Ionawr 1826. Mae'r bont wedi cael ei newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Er enghraifft, ar ôl gwynt cryf ym 1839, bu rhaid newid wyneb y ffordd. Gosodwyd wyneb dur ar y ffordd ym 1893 i ddisodli'r un pren. Wrth i gerbydau modern ddod yn fwy cyffredin, roedd pwysau cerbyd eithaf o 4.5 tunnell yn rhwystr i'r defnyddwyr, gydag ambell fws yn gorfod gollwng ei deithwyr a gorfodi iddyn nhw gerdded ar draws y bont. Felly rhwng 1938 a 1940, newidiwyd y cadwyni haearn am rai dur, ac ym 1999 caewyd y bont am rhai wythnosau er mwyn rhoi wyneb newydd ar y ffordd a chryfhau'r bont.

Pont diwb Britannia

Cynyddodd poblogrwydd y rheilffyrdd yn y 19eg ganrif, a daeth yn amlwg fod angen i drên fedru croesi'r Fenai. Pan ddechreuwyd ar gynllunio rheilffordd i Gaergybi, bu awgrym y dylai rheilffordd groesi ar y bont bresennol. Byddai angen i'r cerbydau cael eu dadfachu ar un ochr y bont, a chael eu tynnu, un ar y tro, gan geffyl ar draws y bont, a'u cysylltu â thrên arall ar yr ochr arall. Neilltuwyd y syniad hwn, ac fe gafodd Robert Stephenson, mab yr arloeswr rheilffyrdd George Stephenson, gyfle i adeiladu pont newydd gyda chymorth William Fairbairn ac Eaton Hodgkinson.

Fel y bont flaenorol, roedd yn rhaid iddi gael bwlch o 100 troedfedd oddi tani ar gyfer hwyliau cychod uchel, ond roedd yn rhaid iddi hefyd fod yn ddigon cryf i ddal cledrau a phwysau trên a sawl cerbyd. Hyd yn oed heddiw byddai prosiect fel hyn yn un anodd.

Penderfynwyd ar adeiladu pont diwb, syniad chwyldroadol ar y pryd. Byddai dau diwb haearn 472 troedfedd o hyd yr un, un bob un ar gyfer cledrau'r trenau. Yn wreiddiol credir y byddai angen cadwyn i gefnogi'r bont, yn debyg i bont grog, ond wedi arbrofi, penderfynwyd ei bod yn ddigon diogel hebddi.

Gosodwyd carreg sylfaen Pont Britannia ar 10 Ebrill 1846, ac unwaith eto defnyddiwyd carreg o chwarel Penmon. Adeiladwyd y tiwbiau ar lan Afon Menai, cyn cael eu gosod. Roedd yn fwy o her i Stephenson i'w codi i'w lle gan eu bod yn pwyso 1,500 tunnell yr un, tipyn mwy na chadwyni Pont Menai. Bu bron i'r tiwb cyntaf gael ei chwythu allan i'r môr! Ond trwy lwc, gyrhaeddodd ei le'n ddiogel. Roeddent yn cael eu codi'n araf trwy ddefnyddio pwmp hydrolig, gyda'r gwaith carreg yn cael ei adeiladu o dan ochrau'r tiwbiau wrth iddynt gael eu codi, rhag ofn i'r system codi methu. Methodd un o'r pympiau ar un achlysur, a disgynnodd tiwb naw modfedd!

Gyda'r tiwbiau haearn yn eu lle, ychwanegwyd pedwar llew carreg galch i warchod mynedfeydd y bont. Fe'u cerfiwyd gan John Thomas, a gerfiodd eitemau ar gyfer San Steffan a Phalas Buckingham yn Llundain. Mae'r llewod bron yn 4 metr o uchder, ac yn eistedd ar lwyfan yr un uchder. Agorodd y bont ar 5 Mawrth 1850, tra oedd Stephenson wrthi'n adeiladu pont debyg iawn iddi ar y rheilffordd rhwng Caer â Chaergybi yng Nghonwy.

Tân Pont Britannia a'r ailadeiladu

Roedd y llun o Bont Britannia yn y bennod olaf yn edrych yn wahanol iawn i'r hyn sydd i'w weld wrth groesi'r Fenai heddiw. Roedd hyn yn sgil antur ddiniwed criw o fechgyn ifanc.

Aeth criw o fechgyn o’r ardal i mewn i un o’r tiwbiau yn ystod nos 23 Mai 1970 i chwilio am nythod adar. Roeddent yn cario darn o bapur yn llosgi fel lamp, a phan ollyngwyd y papur tua 12 llath i mewn i'r bont, aeth y pren y tu mewn i'r bont diwb ar dân. Helpodd gwynt cryf a siâp y tiwb i'r tân ledaenu ar hyd y bont. Parhaodd y tân i losgi am naw awr. Mae'r adroddiad swyddogol yn nodi “...is the result of a Nature Expedition that went wrong ...The main contribution to the destruction of the bridge was the design of the roof, and the high inflammability of the material in which it was made. The cavernous nature of the structure allowed fire to travel in all directions and made fire extinguishing impossible...”. Achosodd y tân gymaint o ddifrod i'r bont, bu pryderon y byddai'r tiwbiau'n disgyn i'r afon. Roedd gwres y tân wedi plygu'r tiwbiau cymaint roedd y bont nawr yn beryglus. Bu rhaid mynd â'r tiwbiau oddi yno a gadael ond y pileri gwreiddiol. Aeth dwy flynedd heibio nes i drên groesi'r bont unwaith eto.

Bu newidiadau mawr i'r bont wrth ei hailadeiladu. Bu rhaid ychwanegu bwâu dur newydd cyn tynnu'r tiwbiau gwreiddiol a oedd wedi'u difetha gan y tân, ond mae darn o'r tiwb gwreiddiol wedi cael ei gadw wrth ymyl y bont bresennol ar ochr Caernarfon y Fenai. Gan nad oes cychod hwylio uchel ar Afon Menai mwyach, nid oedd problem gydag uchder y bont. Fe'i hailadeiladwyd yn bont ddeulawr, y gwaelod yn dal y rheilffordd, a'r A55 yn rhedeg uwch ei phen. Agorodd y lein drenau ar 30 Ionawr 1972, ond ni agorodd y ffordd uwchben tan 1980, ddeng mlynedd wedi'r tân.

Rhwng 1972 a 1978, roedd y bont yn edrych yn anorffenedig. Roedd y trên yn cael croesi, ond roedd y lle uwch ei ben ar gyfer y ffordd heb ei adeiladu. Rhwng 1978 a 1980, adeiladwyd ffordd un lôn uwch ei ben, a'i hagor ym 1980. Mae'r pedwar llew yn yr un lle, ond gan fod y ffordd nawr uwchlaw'r rheilffordd, nid ydynt i'w gweld o'r A55, ond pe byddech yn teithio ar y trên, byddech yn eu gweld yn eu lleoliadau gwreiddiol.

Gyda thraffig yn cynyddu, mae yna drafodaethau i uwchraddio Pont Britannia unwaith eto. Yn 2007 bu awgrymiadau naill ai i ledu'r bont bresennol a'i gwneud yn ffordd ddeuol, neu adeiladu pont newydd wrth ei hochr, ac anfon y traffig mewn cyfeiriadau gwahanol ar y naill bont. Nid oes penderfyniad hyd yn hyn, felly efallai bydd tair pont yn croesi'r Fenai yn y dyfodol.