Cyn yr ornest byddai ceiliog yn cael sbardunau dur neu arian miniog (a allai ladd gydag un trawiad) ac yna'n cael ei gario i ganol y talwrn. Yma byddai'n sefyll, yn wynebu'i wrthwynebydd, modfeddi oddi wrth ei gilydd. Pan fyddai meistr yr ornest yn rhoi arwydd byddai'r frwydr yn cychwyn, ac fe fyddai'n parhau nes i un aderyn gael ei ladd neu'i anafu'n ddifrifol. Byddai tlysau i ddiogelu ceiliogod ymladd weithiau'n cael eu defnyddio. Roedd y rhain yn cynnwys dyfyniadau o'r Beibl neu eiriau neu arwyddion cyfrin, wedi'u hysgrifennu ar ddarnau o bapur digon bach i fynd yn y sbardunau. Credai perchnogion ofergoelus hefyd y byddai adar a oedd yn cael eu bwydo â phridd o allor yr eglwys yn dod yn anorchfygol ac yn gallu lladd pob gwrthwynebydd. Ond byddai swynion a thlysau o'r fath yn cael eu dirymu pe bai'r ornest mewn mynwent eglwys, lle credir na allai nerthoedd allanol effeithio ar ornestau.
Cynhaliwyd nifer fawr o ornestau ymladd ceiliogod yn ystod y Pasg. Un o'r ornestau caletaf yng nghalendr ymladd ceiliogod oedd y Welsh Main, a oedd yn digwydd yng Nghymru a Lloegr, pan fyddai'r adar gorau yn unig yn cystadlu ac fe fyddai arian mawr yn wobr. Roedd dros dri deg o adar yn y Main fel arfer, a byddent yn ymladd yn erbyn ei gilydd tan oedd un aderyn yn unig yn sefyll. Roedd mathau eraill o ymladd ceiliogod yn cynnwys 'shying at cocks', pan fyddai gwylwyr yn taflu darnau o bren at aderyn yn y talwrn, gan geisio'i fwrw drosodd. Roedd 'throwing at cocks' yn arbennig o greulon; clymu adar at bolyn a saethu atynt gydag estyllod.
Roedd poblogrwydd ymladd ceiliogod yng Nghymru yn ei anterth yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn cyfnod pan oedd cyfres o ddiwygiadau crefyddol ledled y wlad yn condemnio chwaraeon a difyrrwch yn weithgareddau pechadurus yn gwarantu uffern a damnedigaeth i bawb ynghlwm. Fe wnaeth Deddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid 1849 ymladd ceiliogod yn anghyfreithlon, er mwyn diogelu lles yr adar ac i rwystro tyrfaoedd meddw yn hapchwarae rhag ymgynnull. Ond fe allwn fod yn siŵr y parhaodd gornestau ymladd ceiliogod anghyfreithlon am hir yn ddiweddarach, ac mor ddiweddar â 1952 pasiwyd deddf ymladd ceiliogod yn ei wneud yn drosedd i berchen ar unrhyw offer yn ymwneud â'r sbort.
Talyrnau
Defnyddiwyd talyrnau dan do ac agored ar gyfer ymladd ceiliogod. Safai'r talwrn dan do cylchol a ailgodwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan yn wreiddiol ym muarth tafarn yr Hawk and Buckle, Dinbych, ac er bod ei ddyddiad cywir yn anhysbys, fe allai fod wedi cael ei adeiladu ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Gan nad oedd gosodiadau mewnol y talwrn yn parhau pan ddaeth i'r Amgueddfa ym 1965, mae'r llwyfan, eil amgylchynol a'r seddau deulawr i gyd yn fodern.
Darllen pellach
Owen, Elias, 'Churchyard Games in Wales', The Reliquary and Illustrated Archaeologist, vol 2 (1896), 154-161.
Peate, Iorwerth C., 'The Denbigh Cockpit and Cockfighting in Wales', Denbighshire Historical Society Transactions, vol.19 (1970), 125-132.
Awdur: Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth draddodiadol, Chwaraeon ac Arferion. Amgueddfa Cymru
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment