Y Cob, Porthmadog
Cob Porthmadog
Syniad William Alexander Madocks (1773-1828) oedd adeiladu'r Cob ym Mhorthmadog. O Sir Ddinbych y daeth teulu Madocks yn wreiddiol, er i William Alexander Madocks cael ei fagu yn Llundain. Ef adeiladodd trefi Porthmadog (Port Madoc yn wreiddiol) a Thremadog .
Roedd croesi o Benrhyndeudraeth a Minffordd i ochr Penmorfa yn Sir Gaernarfon yn beryglus iawn. Roedd pobl yn gorfod cyflogi tywyswyr profiadol i groesi'r tywod yn ddiogel, ac roedd rhaid defnyddio cwch amser llanw.
Pan arwyddwyd Deddf Uno Prydain ac Iwerddon ym 1800, roedd traffig i Ogledd Cymru yn debygol o gynyddu. Ceisiodd Madocks greu porthladd llongau i Ddulyn o'r ardal y tu allan i Dremadog. Madocks adeiladodd Tremadog; prynodd y tir ym 1798 a dechreuodd adeiladu tref fodern, ond yna gwelodd gyfle i gynyddu'i eiddo drwy adeiladu'r Cob ar hyd aber Afon Glaslyn.
Y morglawdd cyntaf
Wedi iddo brynu'r tir, adeiladodd forglawdd pridd o Drwynygraig, Prenteg i Glogyberth, Porthmadog erbyn hyn. Roedd yr hanner cylch yma tua dwy filltir o hyd. Wrth wneud hyn llwyddodd i adennill tua 2000 o erwau o dir da. A gan fod y llanw weithiau'n achosi difrod sylweddol, roedd digon o waith atgyweirio parhaus.
Ond nid oedd Madocks yn fodlon gyda llwyddiant ei forglawdd bychan. Penderfynodd adeiladu morglawdd carreg ar draws y Traeth Mawr o Ynys Towyn yn Sir Gaernarfon i Drwyn Penrhyn ym Meirionydd, gyda'r bwriad o adennill miloedd o erwau o dir. Aeth i'r Senedd a chael sêl bendith y llywodraeth i adeiladu morglawdd i gau'r môr allan o'r Traeth Mawr.
Cyflwynwyd y mesur i'r Senedd gan Thomas Parry Jones-Parry, Madryn, ym 1807, ac i baratoi ar gyfer y gwaith, prynodd Madocks fferm Penrhyn Isaf er mwyn cael digon o gerrig adeiladu.
Adeiladu'r Cob
Dechreuwyd ar y gwaith o ddifrif ym mis Mawrth 1805, ac ymhen ychydig fisoedd, roedd bron 400 o bobl o bob rhan o Gymru a Phrydain yn gweithio arno. Roedd rhai'n torri cerrig ac eraill yn llwytho a dadlwytho. Roedd digon o waith i seiri coed a seiri maen. I ddechrau, adeiladwyd gefeiliau gofaint, gweithdai seiri a stablau ceffylau yn y Boston Lodge. Yma byddai'r gweithwyr yn lletya. Bu anawsterau wrth adeiladu o ochr Sir Gaernarfon gan fod y dŵr yn llawer dyfnach a'r llanw'n wyllt yn erbyn Trwyn Cae Iago.
Agorwyd y Cob yn swyddogol ar 17 Medi 1811. Cynhaliwyd gwledd pedwar diwrnod ac Eisteddfod i ddathlu.
Ar 14 Chwefror, dim ond pum mis ar ôl yr agor y Cob, rhwygodd storm fawr fwlch yn y morglawdd. Casglodd y bobl leol swm sylweddol o arian i drwsio'r morglawdd ac agorwyd y Cob am yr ail dro ym 1814.
Newidiadau i'r Cob
Llwyddwyd trwsio'r morglawdd, ac aeth Madocks yn ei flaen i adeiladu porthladd. Erbyn 1824 roedd llongau'n hwylio i mewn ac allan yn rheolaidd. Ond erbyn hyn roedd Caergybi wedi'i dewis fel y lleoliad gorau i groesi i Ddulyn, ac roedd Pont Menai'n cael ei hadeiladu. Bu bron i deulu Madocks golli'i arian i gyd fel canlyniad, ond cafodd ei achub gan y diwydiant llechi a oedd yn tyfu ym Mlaenau Ffestiniog. Adeiladwyd rheilffordd i gysylltu'r ddau le, ac fe dyfodd Porthmadog i fod yn un o borthladdoedd allforio llechi mwyaf y byd.
Roedd tollborth ar y Cob o’r cychwyn, ac fe barhaodd i fod yno tan 2003 pan brynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r safle. Talwyd y doll olaf o bum ceiniog am 3 o'r gloch y prynhawn ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth 2003.
Mae'r Cob yn gyswllt pwysig rhwng De a Gogledd-Orllewin Cymru. Yn 2002 cafodd ei ledu digon i fysiau a lorïau fedru pasio'i gilydd, ac ychwanegwyd ffordd droed a llwybr beicio ar ochr fewnol y Cob, sydd nawr yn rhan o lwybr beicio cenedlaethol Lôn Las Cymru.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment