Theatr Colwyn ar hyd y blynyddoedd

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,017
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 903
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,107
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Dyddiau cynnar




Mae hanes y theatr fach hon ym Mae Colwyn mor lliwgar ac amrywiol ag y gellid ei ddychmygu. Erbyn heddiw hon yw'r sinema weithredol hynaf ym Mhrydain ers iddi ddangos ei delweddau symudol cyntaf ym mis Ionawr 1909. Ond mae hanes y theatr yn hŷn na'i gyrfa fel sinema, ac mae ei hawditoriwm wedi cynnal dawnsfeydd, ralïau gwleidyddol, cyngherddau, dramâu, darlithoedd a sioeau clerwyr dros y blynyddoedd.



Dechreuodd gwaith adeiladu'r lleoliad ym 1885 pan oedd Bae Colwyn yn ffynnu ac roedd masnachwyr cyfoethog o'r Gogledd Orllewin yn berchen ar eiddo yn y dref, a deuai ymwelwyr i'r cyrchfan glan môr o dros Brydain i gyd. Roedd yn gwneud synnwyr y dylai'r fath dref gael man adloniant fel theatr.



Yn rhyfedd iawn, un o'r defnyddiau cyntaf o'r theatr oedd fel man addoli; y grŵp cyntaf i gael ei gofnodi'n defnyddio'r neuadd oedd cynulleidfa Eglwys St Paul wedi i'r eglwys losgi i lawr. Mae'n ymddangos y bu addoli yn y Neuadd Gyhoeddus tan 1888.



Daeth y Neuadd Gyhoeddus hefyd yn 'wyneb cyhoeddus' Sefydliad y Congo byd-enwog, gyda'i sylfaenydd, y Parch. William Hughes, yn Weinidog Capel y Bedyddwyr, sy'n sefyll o hyd ychydig i fyny'r stryd.




Y 'Rep'




Enillodd y Neuadd fri ac o 1901 daethpwyd â sioeau'n uniongyrchol o Broadway a'r West End i'w mwynhau gan drigolion Bae Colwyn. Ychydig yn ddiweddarach, prynodd Harry Reynolds a'i grŵp o glerwyr y 'Serenaders' y neuadd. Roedd Reynolds yn adnabyddus ar lwyfannau'r West End ac ym Mae Colwyn ac erbyn Ionawr 1909 roedd wedi trawsnewid y neuadd yn sinema gyntaf y dref. Felly sinema Bae Colwyn yw'r sinema hynaf ym Mhrydain, gan fod y ffilmiau diweddaraf yn cael eu dangos yno heddiw.



Arhosodd Reynolds a'i glerwyr yno tan 1922 pan werthwyd y busnes i Coastal Cinemas a newidiwyd yr enw i The Rialto. Ond parhaodd llwyddiant y fenter am gyfnod byr, ac mi wnaeth gau ar ddiwedd 1930. Yna fe fu trychineb. Llosgodd tân drwy do'r Rialto, ac fe ddisgynnodd i mewn i'r awditoriwm. Parhaodd y theatr ar gau tan 1936 pan adeiladwyd llwyfan a tho newydd. Ailagorodd fel The New Rialto Repertory Theatre, o dan arweiniad yr actor / rheolwr Stanley Ravenscroft. Cymrodd Ravenscroft brydles ar yr adeilad am 9 wythnos yn wreiddiol, ond arhosodd am 22 mlynedd!




Stanley Ravenscroft hyd heddiw




Roedd Ravenscroft yn gymeriad enigmatig ac ychydig a wyddys amdano heddiw. Roedd yn byw uwchlaw'r theatr gyda chath ddu a chreodd cwmni dramatig uchel iawn ei fri. Aeth llawer o'i actorion ymlaen i ddod yn enwog yn eu maes ac yn ystod ei gyfnod yn y Rialto, roedd busnes yn dda iawn. Chwyddodd cynulleidfaoedd yn ystod y rhyfel oherwydd y galw mawr am docynnau oddi wrth weithwyr y Weinyddiaeth Fwyd a symudodd i'r dref.



Gadawodd Ravenscroft y busnes ym 1958. Y flwyddyn ganlynol prynwyd yr adeilad gan y cyngor lleol a'i ailenwi'n The Prince of Wales, gyda theatr un cwmni'n cael ei harwain gan y rheolwr theatr o Lundain, Geoffrey Hastings. Roedd yn llwyddiannus iawn unwaith eto, gyda 33,000 o bobl yn dod i wylio cynyrchiadau o fewn misoedd.



Ym 1991 newidiwyd enw'r theatr i Theatr Colwyn fel rhan o raglen foderneiddio, a nawr Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy sy'n ei rhedeg. Mae digwyddiadau yn y theatr heddiw'n cynnwys gigs, pantomeimiau, bale, dramâu, cyngherddau amrywiol a chynyrchiadau ysgol ac amatur yn ogystal â ffilmiau sinema prif lif ac annibynnol.



Gyda diolch i Roy Schofield a Joann Rae