Carnifal

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,126
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,075
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,402
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Dathliad blynyddol




 






Bob blwyddyn, mae pentrefi a threfi ar draws Cymru yn cynnal carnifal.  Mae'n ddiwrnod o hwyl a sbri gyda'r gymuned yn dod at ei gilydd am ddathliad.  Faint ohonom ni sydd wedi gwisgo fel tylwyth teg, tywysogesau, milwyr neu fôr-ladron am y diwrnod, a mwynhau gorymdaith y carnifal a diwrnod o weithgareddau?  Pwy sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael ei choroni'n 'Frenhines y Carnifal' neu'n 'Dywysoges y Rhosod'?




Traddodiad rhyngwladol




 






Mae Carnifal yn bodoli yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau o gwmpas y byd ac mae fel arfer yn ddathliad cymunedol gydag elfennau o ddawns fasgiau, gorymdeithio a gwisgoedd lliwgar.  Cynhaliwyd carnifalau'n draddodiadol cyn y Grawys er mwyn defnyddio'r bwyd brasterog yn y cypyrddau cyn i'r tymor ymprydio ddechrau.  Mae sôn i'r gair carnifal ddod o'r Lladin 'carne vale' neu 'ffarwel i gig'.  Mewn rhai diwylliannau, mae tymor carnifal yn parhau am wythnosau ac yn dod i ben ar y dydd Mawrth cyn dydd Mercher y Lludw sef 'Mardi Gras' neu 'Ddydd Mawrth Brasder'.  Mae'n cael ei adnabod yn well ym Mhrydain fel Dydd Mawrth Crempog.




Digwyddiad mwy distaw




 






Erbyn heddiw, mae carnifalau'n cael eu cynnal drwy'r flwyddyn, yn aml ym misoedd yr haf yng Nghymru wrth i ni obeithio am ychydig o dywydd da.  Gellir cysylltu tarddiad carnifalau yng Nghymru â Gŵyl Mabsant, dathliad blynyddol sant lleol y plwyf.  Ar y dechrau, roedd y dathliad hwn yn gysegriad drwy weddi ond yn raddol fe ddatblygodd yn amrywiaeth ehangach o weithgareddau hamdden a oedd yn aml yn gyfuniad o hapchwarae, gwledda a diota.  Roedd digwyddiadau fel ymladd ceiliogod a bando, ffurf gynnar o hoci, yn boblogaidd yn y fath ddathliadau.



 



Wrth i Anghydffurfiaeth gryfhau yng Nghymru a chyfres o ddiwygiadau crefyddol ysgubo ar draws y wlad, cafodd y fath hwyl a gweithgareddau chwaraeon eu condemnio'n bechadurus a diwerth.  Canlyniad hyn oedd anghofio traddodiadau miri'r gwyliau Mabsant.



 



Heddiw, mae carnifalau'n gyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd, yn aml gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer elusen neu achos lleol.  Mae'r elfennau hwyl, gwisgoedd a miri'n parhau ond mae'r cysylltiadau â'r ystyron traddodiadol yn gyffredinol wedi'u colli.