Gyrfa'r pêl-droediwr John Charles

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,539
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,507
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,171
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,585
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gyrfa cynnar

Roedd John Charles yn un o nifer o chwaraewyr dawnus iawn a ddaeth i'r amlwg yn ysgolion Abertawe rhwng diwedd y 1930au a dechrau'r 1950au. Aeth yr enwocaf ohonynt, Trevor Ford, Cliff Jones, Ivor a Len Allchurch, Jack Kelsey a brawd John, Mel, ymlaen i fod yn sêr rhyngwladol. Ar ddechrau'r 1950au enillodd bechgyn ysgol Abertawe Darian Ysgolion Lloegr dair gwaith am chwarae pêl-droed. Roedd arweiniad athrawon lleol yn meithrin y rhagoroldeb pêl-droed hwn, ond ni lwyddodd sefydliad lleol, Clwb Pêl-droed Tref Abertawe, i fuddio ohono.

Llithrodd Charles o afael clwb ei dref enedigol pan 'gipiodd' Leeds United ef (a sawl aelod arall) o staff maes Swansea Town ym 1948, wedi i sgowt ei weld yn chwarae mewn parc cyhoeddus. Nid oedd Charles eto'n 16 oed, ac roedd felly'n rhydd i weithredu fel y mynno, er bod dealltwriaeth y byddai ef a bechgyn eraill y staff maes yn arwyddo i ymuno â Chlwb Abertawe yn chwaraewyr proffesiynol. Wedi i hynny ddigwydd, newidiodd yr FA rheoliadau cofrestru chwaraewyr er mwyn osgoi profiad o'r fath eto. Byddai Charles felly'n cyfrannu i bêl-droed ar y llwyfan ryngwladol i Gymru, yn hytrach nag i glwb yng Nghymru.

Pêl-droed Ryngwladol

Chwaraeodd yn ei gêm ryngwladol gyntaf ym 1950 yn erbyn Gogledd Iwerddon yn y bencampwriaeth gartref. Ei safle oedd canolwr a chanolwr blaen yn ei yrfa ryngwladol, fel y byddai hefyd yn chwarae i'w glwb. Helpodd roi amlygrwydd i Gymru yn y byd pêl-droed rhyngwladol; dywedodd ysgrifennydd cynghrair yr Eidal ym 1961 y 'dylai Cymru rhoi medal i Charles. Mae wedi ei rhoi ar y map. Doedd neb yn yr Eidal yn gwybod ble na phwy ydoedd cyn (John Charles)'.

Enillodd Charles 38 cap i Gymru, a sgorio 15 gôl. Fe fyddai wedi sgorio llawer mwy pe byddai Juventus yn hapus i'w ryddhau bob tro y cafodd ei alw i chwarae. Cofiodd Charles: 'Pe bydden nhw [Juventus] yn chwarae'n syth cyn neu'n syth ar ôl gêm ryngwladol yna roedd rhaid i mi aros gyda nhw. Roedd yn torri 'nghalon.'

Cwpan y Byd 1958

Wedi i Gymru gymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 1958 roedd ei reolwr a'i gyd-chwaraewyr yn ansicr a fyddai Charles yn medru cymryd rhan ai peidio. Pan adawodd chwaraewyr tîm Cymru am Sweden, nid oedd Charles yn eu plith. Roedd Juventus, a oedd newydd ennill cystadleuaeth Cynghrair yr Eidal, o'r diwedd wedi cytuno i'w ryddhau, ond roedd yn aros am ganiatâd Ffederasiwn Pêl-droed yr Eidal.

Nid oedd Charles yn meddwl y byddai Cymru'n cymhwyso ac felly ni feddyliai y byddai problem yn codi. Yn y pendraw, pan gyrhaeddodd Sweden nid oedd unrhyw un yn ei ddisgwyl ac fe gyrhaeddodd mewn maes awyr heb wybod lle'r oedd tîm Cymru'n aros. Chwaraeodd Charles mewn tair gêm grŵp i Gymru, a sgoriodd unwaith. Yn y gêm dros ben nesaf yn erbyn Hwngari cafodd ei ddiarddel o'r gêm, a rhwystrodd anaf ef rhag chwarae yn erbyn Brasil yn y gêm gogynderfynol. Heb eu seren, collodd Cymru 1-0, y gôl gan Pele.

Dychwelyd i'r DU

Cyfrannodd ei awydd i chwarae pêl-droed ryngwladol at ei benderfyniad i arwyddo i Leeds United ym 1961. Wedi iddo ddychwelyd yn sydyn i Roma, fe fynnodd ar gael cymal yn ei gytundeb yn caniatáu iddo chwarae i Gymru. O'r diwedd chwaraeodd Charles i glwb yng Nghymru pan ymunodd â Cardiff City o AS Roma ym 1963. Erbyn hynny roedd wedi colli ychydig o'i gyflymdra a bu'n chwarae fel amddiffynnwr gan fwyaf. Ym 1966 ymunodd â Hereford United yn chwaraewr-reolwr cyn dychwelyd i Gymru i fynd yn rheolwr ar Merthyr Town ym 1971. Yna aeth yn rheolwr cynorthwyol Abertawe ym 1973 wedi iddo dreulio cyfnod byr yng Nghanada.

Arhosodd Charles yn Abertawe am dair blynedd cyn symud i Leeds i redeg tafarn. Nid oedd yn rheolwr llwyddiannus, ym mhêl-droed nac ym musnes; efallai fod ei natur yn rhy glên. Ond mae pawb a gyfarfu ag ef neu a'i welodd yn chwarae yn ei gofio. Digwyddodd ei lwyddiannau mwyaf ar y cyfandir mewn cyfnod cyn darlledu teledu eang, ac felly nid oedd Charles mor enwog yng Nghymru neu'r DU ag yr oedd yn yr Eidal. Er hynny, mae'n rhaid mai ef yw chwaraewr gorau erioed y genedl fach hon.