Arbrawf Bryn-mawr, 1929-40

Eitemau yn y stori hon:

  • 972
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 969
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,635
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,486
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Arbrawf Bryn-mawr




Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru.



Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal prosiectau cymunedol a mentrau a oedd yn cynnwys cynhyrchu esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn.



Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmn



Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru.



Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal prosiectau cymunedol a mentrau a oedd yn cynnwys cynhyrchu esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn.



Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmnïau llwyddiannus eraill oedd yn eiddo i Grynwyr - yr archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol y Crynwyr yng Nghaerefrog. Roedd pob cadair yn costio £1 (sef £41 neu $71 yn arian heddiw) ac aeth yr elw i brynu offer a pheiriannau newydd i'r cwmni.




Paul Matt




Priodolwyd llwyddiant dodrefn Bryn-mawr yn bennaf i'r cynllunydd, Paul Matt. Treuliodd ei brentisiaeth dan ofal ei dad, saer dodrefn medrus, ond enillodd brofiad hefyd drwy weithio fel cynllunydd yn Llundain. Mae arddull syml dodrefn Bryn-mawr yn dangos yn gwbl glir y cafodd Matt ei ddylanwadu gan ddodrefn celfyddyd a chrefftau, a chynllunwyr fel Ambrose Heal a'r brodyr Russell.



Bu Paul Matt hefyd yn gyfrifol am gynllunio dodrefn oedd yn gymharol syml i'w cynhyrchu; gwaith a roddai ystyriaeth i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ddi-grefft yn y blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy fabwysiadu dull o osod paneli laminedig o bren haenog mewn fframwaith solet o bren. Roedd yn defnyddio pren derw wedi'i fewnforio'n bennaf ac yn ei gaboli â haen o gwyr clir gan roi pryd a gwedd ddirodres a diaddurn i'r celfi, nodweddion oedd yn gydnaws ag athroniaeth y Crynwyr. 




Dodrefn 'Cymreig'




Yn ogystal â chynhyrchu dodrefn o'r ansawdd gorau, roedd y cwmni hefyd yn llwyddiannus wrth farchnata'r cynnyrch. Drwy ddefnyddio taflenni hysbysebu a chatalogau sgleiniog, pwysleisiwyd delfrydau dyngarol y cwmni, sef cynhyrchu celfi o'r ansawdd gorau o ran eu gwneuthuriad a'u cynllun, a darparu swyddi parhaol er budd y gymuned leol. Apeliodd y delfrydau hyn at ddosbarthiadau canol a phroffesiynol y 1930au fel athrawon felly aeth y cwmni ati i anelu ei gynnyrch at y garfan hon drwy geisio cadw pris y dodrefn o fewn eu cyrraedd. Gellid gweld dodrefn Bryn-mawr hefyd mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd mewn siopau adrannol fel Browns yng Nghaer a siopau Lewis's yn Birmingham a Manceinion. Ym 1938 cafodd y cwmni afael ar leoliad arddangos barhaol yn ardal ffasiynol Sgwâr Cavendish, Llundain. Agorwyd yr arddangosfa gan Mrs Neville Chamberlain a oedd hefyd yn un o noddwyr dodrefn Bryn-mawr. 



Er i'r cwmni gael llwyddiant yn Lloegr, roedd hefyd yn awyddus i hyrwyddo dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Bu David Morgan Cyf., siop adrannol adnabyddus yng Nghaerdydd, yn gefn i'r cwmni o'r dyddiau cynharaf, gan roi lle arddangos y cynnyrch yn rhad ac am ddim rhwng 1932 a 1940. Bu'r cwmni hefyd yn cynnal arddangosfeydd blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyhoeddi deunydd hysbysebu yn y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, câi'r dodrefn eu marchnata fel dodrefn o Gymru a chael eu henwi ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, fel cist Cwmbrân, bwrdd Llanelli, seld Talgarth a chadair Cwm-du. Sicrhaodd hyn gefnogaeth ffyddlon ymhlith cylchoedd proffesiynol ac academaidd Cymru drwy gydol y 1930au. 




Rhyfel




 Ym 1936 gadawodd Paul Matt y cwmni er mwyn trefnu gwaith arall ar gyfer y di-waith yn ne Cymru. Ei olynydd oedd ei gynorthwy-ydd, Arthur Reynolds, a fu'n gyfrifol am rai newidiadau bach i'r cynlluniau ac am gynnwys mwy o gelfi pren cyll Ffrengig yn y casgliadau. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ffatri hen waith Gwalia ei llosgi'n ulw a chodwyd adeilad newydd sbon gerllaw'r hen safle ym 1937. Er na chafodd hyn fawr o effaith ar y gwaith cynhyrchu, dirywiodd y gwerthiant yn araf ar ddiwedd y 1930au wrth i'r rhyfel agosau. Wedi i'r rhyfel gychwyn roedd hi hefyd yn anodd mewnforio deunyddiau a gwaetha'r modd, yr unig ddewis oedd cau ffatri Dodrefn Bryn-mawr ym 1940.



Darllen Cefndir



"Crafts and the Quakers" gan Gwen Lloyd Davies. Yn Planet, cyf. 51, tt.108-111 (Gorffennaf 1985).



"Utopian designer: Paul Matt and the Brynmawr Experiment", gan Roger Smith. Yn Furniture History, cyf. 23, tt.88-94 (1987).



"Philanthropic Furniture: Gregynog Hall, Powys" gan Lindsay Shen. Yn Furniture History, cyf. 31, tt.217-235 (1995).