Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910.

Eitemau yn y stori hon:

• 1,703
• Use stars to collect & save items mewngofnodi
• 665
• Use stars to collect & save items mewngofnodi
• 704
• Use stars to collect & save items mewngofnodi
• 755
• Use stars to collect & save items mewngofnodi

Alldaith Antarctig Brydeinig Scott

Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith.

Mae tair eitem yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sydd, gyda'u gilydd yn cynnwys llofnodion 27 o swyddogion, gwyddonwyr a chriw alldaith Scott; dau wedi'u dyddio o ddechrau'r alldaith ac un o'i diwedd. Yn eu plith mae llofnodion Scott, Wilson, Bowers ac Oates fu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De. Mae'n nodedig nad yw llofnod y Cymro Edgar Evans o Rossili yng Ngŵyr, y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn, i'w weld ar y dogfennau o ddechrau'r alldaith; Is-swyddog yn unig ydoedd.

Dechrau o Gaerdydd

Mae llofnodion y canlynol yn ategu ffotograff o'r Terra Nova, swyddogion y llong a swyddogion eraill:

E. L. Atkinson Y llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg y Parti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

W. W. Archer W.W. Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

G. Murray Levick Y llawfeddyg George Murray Levick, RN (1877-1956). Llawfeddyg Parti'r Gogledd ar yr alldaith a oroesodd am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof iâ. Astudiodd gytref Pengwiniaid Adélie ym Mhenrhyn Adare ac ysgrifennodd lyfr ar bengwiniaid yr Antarctig yn ddiweddarach.

L. E. G. Oates Captain Lawrence Edward Grace Oates (1880-1912), 6ed Dragŵniaid Inniskilling. Yn dioddef yn enbyd gan effaith ewinrhew ar ei draed, bu farw Oates ar y daith yn ôl o Begwn y De ar 16 Mawrth 1912. Ef sy'n enwog am ddweud wrth ei gymdeithion, Scott, Wilson a Bowers, "I am just going outside and may be some time" wrth adael y babell a diflannu i'r storm eira.

E. R. G. R. Evans Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Roedd Evans yn allweddol yn ennill cefnogaeth a nawdd Cymreig ar gyfer yr alldaith gan gymryd yr awenau wedi i Scott farw.

R. Scott Capten Robert Falcon Scott, CVO, RN (1868-1912). Arweinydd yr Alldaith. Scott fu'n arwain Alldaith Discovery 1901-04 y a dychwelodd i arwain Alldaith y Terra Nova. Cyrrhaeddodd Begwn y Gogledd ar 16 Ionawr 1912 gyda Wilson, Bowers, Oates ac Edgar Evans. Bu farw'r pump ar y daith yn ôl.

Y Terra Nova yn Hwylio tua'r Antarctig

Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o'r Mercantile Pontoon Co Cyf, Doc y Rhath, Caerdydd ar bapur gyda phennawd yr Alldaith Antarctig Brydeinig:

Annwyl Mr Rusden

Rwy'n amgáu llofnodion y swyddogion ar fwrdd y llong fel yr addewais. Daliasom awel deg yn gynnar bore ddoe ac rydym wedi bod yn hwylio ar gyflymder o fwy nag 8 not byth er hynny. Credaf na fydd yr un ohonom yn anghofio Caerdydd.

Cofion cynnes

Yr eiddoch yn gywir

Edward R.G.R. Evans

Llofnodion

Edward R. G. R. Evans

Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Bu Evans yn cynllunio ei Alldaith Antarctig ei hun gyda chefnogaeth a nawdd Cymreig, pan glywodd am gynlluniau Scott. Cafodd yrfa forwrol enwog yn ddiweddarach gan gael ei urddo'n Arglwydd Mountevens ym 1946.

D. G. Lillie

Dennis G. Lillie MA. Biolegydd Parti'r Llong

Victor Campbell

Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ym Mhenrhyn Adare yng Ngwlad Victoria. Aeth chwe gŵr y parti Gogleddol i drafferthion i'r de ar yr arfordir gan oroesi am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia heb lawer o fwyd ac yn eu dillad haf.

Apsley Cherry-Garrard

Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Sŵolegydd Cynorthwyol. Talodd Cherry-Garrard £1000 i ymuno â'r Alldaith. Aeth yntau gyda Wilson a Bowers ar siwrnai yn y gaeaf i gasglu wyau Pengwiniaid Ymerodrol a ddisgrifiodd yn ddiweddarach yn ei lyfr, The worst journey in the world. Roedd yn rhan o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H.Rennick

Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog ar y Terra Nova.

E. W. Nelson

Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti'r Lan.

Edward A. Wilson

Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Sŵolegydd, Parti'r Lan. Bu Wilson gyda Scott ar Alldaith y Discovery 1901-4. Roedd yn artist a sŵolegydd medrus a thalentog ac yn ffrind agos i Scott. Bu farw gyda Scott a Bowers yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

E. L. Atkinson

Y Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. R. Bowers

Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912). Cafodd Bowers ei roi yn ngofal y storfeydd gan Scott. Roedd yn aelod o'r Parti Pegynol olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

Terra Nova yn hwylio tua'r Antarctig

Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o gwmni The Mercantile Pontoon Co Ltd, Doc y Rhath, Caerdydd, ar bapur pennawd Alltaith Antarctig Brydeinig:

Dear Mr Rusden

I enclose the autographs of the officers on board as promised. We had a fine breeze early yesterday & have been sailing over 8 knots ever since. I don’t think any of us will forget Cardiff.

With kind regards
Yours sincerely

Edward R.G.R. Evans

Llofnodion

Edward R. G. R. Evans
Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957).Gyda chefnogaeth a nawdd o Gymru, roedd Evans wedi gobeithio trefnu'i alltaith ei hun pan glywodd am gynlluniau Scott. Yn ddiweddarach cafodd yrfa forwrol nodedig ac fe'i urddwyd yn Arglwydd Mountevens ym 1946.

D. G. Lillie
Dennis G. Lillie MA. Biolegwr y llong.

Victor Campbell
Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Pennaeth y Parti Gogleddol, yn Cape Adare yn Victoria Land i ddechrau. Cafodd y chwech dyn yn y parti eu gadael yn bellach tua'r de ar yr arfordir a goroesi saith mis o aeaf mewn ogof iâ gydag ychydig iawn o fwyd a'u dillad haf.

Apsley Cherry-Garrard
Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Swolegydd cynorthwyol. Talodd £1,000 i ymuno â'r Alldaith. Gyda Wilson a Bowers fe aeth i gasglu wyau'r pengwin ymerodrol a'i ddisgrifio'n ddiweddarach yn ei lyfr The worst journey in the world.Roedd yn aelod o'r parti chwilio a ddaeth o hyd i gyrff Scott, Wilson a Bowers ym mis Tachwedd 1912.

H. Rennick
Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog y Terra Nova.

E. W. Nelson
Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti Glanio.

Edward A. Wilson
Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Swolegydd, Parti Glanio. Roedd Wilson wedi bod ar daith Scott ar y Discovery ym 1901-4. Artist a swolegydd medrus, roedd Wilson a Scott yn ffrindiau da. Bu farw gyda Scott yn eu pabell ar Scafell Rew Ross wrth iddynt ddychwelyd o Begwn y De ym mis Mawrth 1912.

E. L. Atkinson
Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg a pharasitolegydd a arweiniodd y parti chwilio a ddaeth o hyd i gyrff Scot, Wilson a Bowers ym mis Tachwedd 1912.

H. R. Bowers
Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912).Bowers oedd yn gyfrifol am gyflenwadau. Roedd yn aelod o'r Parti Pegwn olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Sgafell Rew Ross ym mis Mawrth 1912 wrth iddynt ddychwelyd o Begwn y De.

Dychwelyd i Gaerdydd

Llofnodion swyddogion a chriw RYS Terra Nova ar eu dychweliad i Gaerdydd Mehefin 14/13 (Sadwrn). Stamp Un Geiniog Seland Newydd, "Victoria Land"; wedi'i brintio drosto ac wedi ei ffrancio â "British Antarctic Expedition Ja 18 [19]13".

Mae'r llofnodion ar y ddalen hon yn ddiddorol gan taw llofnodion y criw ydynt, ar wahân i bedwar swyddog a gwyddonydd, sy'n awgrymu y cai'r criw eu cyfri'n enwog ar ddychweliad yr alldaith.

W. W. Archer W Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

A. Cherry-Garrard Apsley Cherry-Garrard. Solegydd Cynorthwyol.

E. W. Nelson Edward W Nelson. Biolegydd.

E. L. Atkinson Y Llawfeddyg Edward L Atkinson RN. Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd.

Wm W. Williams C.E.R.A. 2il Ddosbarth William W. Williams, RN. Prif Beiriannydd, Parti'r Llong.

W. A. Horton E.R.A. 3ydd Dosbarth William A. Horton, RN. Is Beiriannydd, Parti'r Llong.

T. S. Williamson Is-swyddog Dosbarth 1af Thomas S. Williamson, RN. Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. Dickason Llongwr Abl Harry Dickason, RN. Parti'r Gogledd.

A. Balson Prif Longwr Albert Balson, R.N. Parti'r Llong.

W. H. Neale Stiward W.H. Neale. Parti'r Llong.

F. Parsons Is-swyddog Dosbarth 1af Frederick Parsons, RN. Parti'r Llong.

Victor Campbell Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd

Mortimer McCarthy Llongwr Mortimer McCarthy. Parti'r Llong.

Wm L. Heald Is-swyddog Dosbarth 1af William L. Heald, RN (Wedi ymddeol). Parti'r Llong. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4.

W. Lashly (also a member of Shackleton's Expedition) Prif Daniwr William Lashly, RN (1868-1940). Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4 a gyda Shackleton ar Alldaith Nimrod 1907-09. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ymgartrefodd Lashly yng Nghaerdydd, gan weithio fel swyddog tollau tan iddo ymddeol i Hampshire ym 1932.

H. Pennell Is-gapten Harry Lewin Lee Pennell, RN (1882-1916). Parti'r Llong, Mordwywr.

F. E. Davies Prif Saer Llongau Francis E.C. Davies, RN. Saer, Parti'r Llong.

A. S. Bailey Is-swyddog 2il Ddosbarth Arthur S. Bailey, RN. Parti'r Llong.

J. Lees Llongwr Abl Joseph Lees, RN. Parti'r Llong.