Arthur Linton: Y Pencampwr Beicio o Aberdar
Eitemau yn y stori hon:
Dyffryn o Seiclwyr
Mae'n rhaid fod rhywbeth yn y dŵr yng Nghwm Cynon ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y cwm, a thref Aberaman yn enwedig, yn ardal fagu seiclwyr rhyngwladol enwog.
Roedd Aberaman yn gartref i bedwar o seiclwyr a oedd ymhlith y goreuon yn y byd: y brodyr Linton, Arthur, Tom a Samuel; a Jimmy Michael. Roedd Arthur Linton a Jimmy Michael yn gystadleuwyr mawr. Daeth y ddau yn Bencampwyr Byd a dilynodd bywydau'r ddau lwybr rhyfedd o gyflinellol a dadleuol.
Enwogrwydd yn Ffrainc i Linton
Daeth seiclo'n boblogaidd yn ystod y 1880au a'r 1890au yn dilyn dyfeisio'r beic gyriant cadwyn ddiogel, a ffurfiwyd Clwb Beiciau Aberdâr ym 1884. Erbyn 1890 roedd wedi datblygu'n glwb rasio a thua'r adeg hon fe ddechreuodd Arthur Linton rasio'n lleol. Erbyn 1892 roedd yn adnabyddus ledled de Cymru a dros y ddwy flynedd nesaf daeth ei enw'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Ym 1893 torrodd record un awr y byd, gan seiclo 22 milltir ar drac seiclo yng Nghaerdydd, a thorri'r record a grëwyd ychydig ddiwrnodau'n gynharach gan y Ffrancwr Henri Desgranges, a aeth yn ei flaen i sefydlu'r Tour de France.
Enillodd y fath orchestion enw rhyngwladol i Linton ac yng ngaeaf 1893 gadawodd am Baris lle'r oedd seiclo, o bell ffordd, y gamp fwyaf poblogaidd. Yma, rasiodd Arthur o flaen tyrfaoedd o dros 15,000 o wylwyr mewn rasys hyd at gan filltir o hyd. Ar ddechrau mis Ionawr 1894 curodd Linton bencampwr Ffrainc Dubois mewn ras 100 milltir a gyda'r fuddugoliaeth honno enillodd glod yn Ffrainc.
Sialens Fwyaf Linton
Dros y ddwy flynedd nesaf, rasiodd Linton yn Ffrainc yn bennaf gan fod y rasys o safon uwch nag ym Mhrydain. Ym 1894 dechreuodd weithio gyda hyfforddwr newydd, 'Choppy' Warburton. Gyda'i gilydd fe hyfforddon nhw ar gyfer rasys pellter hir ac mae sôn i Warburton weithio Linton yn galed gydag amserlen hyfforddi lethol. Yn ystod 1894 enillodd Linton gyfres o rasys a cafodd y teitl 'Pencampwr Seiclo'r Byd'.
O dan arweiniad Warburton dechreuodd Linton ar her fwyaf ei yrfa. Ym 1895 cafodd anaf i'w ben glin ond parhaodd i hyfforddi ac i rasio er mwyn paratoi ar gyfer y ras fawr o Bordeaux i Baris, tua 350 o filltiroedd. Roedd Linton yn ymddangos ei fod wedi ymlâdd cyn y ras, ac roedd fel pe bai'n cael trafferth drwyddi ond derbyniodd gymorth oddi wrth Warburton ym mhob cyfnod o'r ras.
Y cymorth hwn oddi wrth Warburton, gwahanol gymysgiadau o boteli bach, oedd wrth wraidd y dybiaeth sydd wedi pardduo enw Arthur Linton byth ers hynny. Roedd honiadau y rhoddodd Warburton gyffuriau i Linton i'w alluogi i barhau; dywedwyd na allai unrhyw un barhau yn ei gyflwr ef, heb sôn am fynd ymlaen i ennill y ras.
Cam yn rhy bell
Cadarnhaodd buddugoliaeth Linton ei enw fel seiclwr gorau'r byd. Fodd bynnag, tyfodd y dybiaeth ynglŷn â thactegau cyffuriau Warburton pan fu farw Linton yn annisgwyl dim ond chwe wythnos ar ôl y ras.
Roedd fel pe bai'n cadarnhau'r drwgdybiaethau fod y seiclwr wedi cael cyffuriau gan Warburton ac mai dyna achosodd ei farwolaeth. Ond mae ymchwil wedi dangos y bu Linton farw o dwymyn Teiffoid ar 23 Gorffennaf 1896. Mae'n ymddangos i'r ras fod mor galed ar ei gorff fel nad oedd yn medru gwrthsefyll yr afiechyd a bu farw'n 28 oed.
Nid oes tystiolaeth fod cyffuriau wedi chwarae unrhyw ran yn ei orchestion na'i farwolaeth.