Bad Achub Aberystwyth

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,632
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,684
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

RNLI Aberystwyth




 



Mae gorsaf Bad Achub yr RNLI yn Aberystwyth yn dathlu ei ben blwydd yn 150 oed yn 2011, ond mae bad achub wedi bod gan y dref ers 1843. Roedd gorsaf y bad achub o dan reolaeth Meistr yr Harbwr i ddechrau.



Daeth yr RNLI i Aberystwyth ym 1861, gyda'r bad achub 'Evelyn Wood', a gostiodd £170. Cafodd y bad ei gyflwyno i'r orsaf ym mis Tachwedd 1861, ac fe fu'n gweithio tan 1876. Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd ei alw allan 13 o weithiau, ac achubodd 16 o fywydau.



Lleolwyd tŷ'r bad achub bryd hynny ar Rodfa Fuddug, yn agos i Westy Glengower heddiw. Adeiladwyd y tŷ am £125 5s 6d, ac fe gafodd yr adeiladwr £5 yn ychwanegol i gael gwared â'r rwbel oedd ar y safle yn barod. Cymrodd dau fis i'w adeiladu.



Cartref newydd i'r bad achub




 



Roedd y cwch 'Evelyn Wood' yn cario criw o 13 o ddynion, ac yn cael ei yrru gan 10 rhwyf, felly roedd angen nifer fawr o bobl i'w lansio. Roedd yn cael ei lansio o'r traeth yn y dyddiau cynnar, ac roedd problemau mawr gan fod y traeth yn newid yn ddyddiol gyda'r llanw, felly bu rhaid adeiladu llithrffordd o’r promenâd i'r dŵr. Mae'r lanfa bresennol ar safle'r hen lithrffordd.



Adeiladwyd cwt newydd i ddal bad achub mwy o faint ym 1885 ar stryd Morfa Mawr. Roedd yr RNLI yn defnyddio badau achub Tynnu a Rhwyfo tan fis Tachwedd 1932, pan ddaeth cwch modur yno am y tro cyntaf. Enw'r cwch tynnu a rhwyfo olaf yn Aberystwyth oedd y 'John & Naomi Beattie'. Yn 70 mlynedd gyntaf yr RNLI yn Aberystwyth, achubwyd 52 o fywydau mewn 38 galwad. Pan ddaeth y cwch modur cyntaf i Aberystwyth, penderfynodd y Llywiwr, David Williams, ymddeol ar ôl 42.5 o flynyddoedd. Ef sydd o hyd yn dal y record am wasanaethu hiraf fel Llywiwr!



Roedd y cwch modur newydd 'Frederick Angus' yn 35 troedfedd 6 modfedd o hyd, ac fe gostiodd £3,326 i'w adeiladu ym 1932. Fe achubodd 25 o fywydau yn ei 17 mlynedd o wasanaeth yn Aberystwyth. Cafodd ei gadw'n brysur yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth chwilio am awyrennau a oedd wedi gorfod glanio yn y môr. Cafodd y 'Frederick Angus' ei ddifrodi mewn moroedd garw ym 1949, felly cafodd ei ddisodli gan 'Lady Harrison', cwch o'r Llynges. Bu'n gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd.




Inshore Lifeboat - (ILB)




 



Yn ystod haf 1951, cyrhaeddodd 'Aguilla Wren' Aberystwyth, bad 35 troedfedd 6 modfedd Dosbarth Lerpwl. Costiodd £14,142 i'w adeiladu. Roedd ganddo fodur diesel dwbl, ac fe fedrai gyrraedd cyflymder o 8 not. Roedd ganddo radio tonfedd ganol, a hwn oedd y bad achub cyntaf gyda modur yn unig i weithio yn Aberystwyth. Bu'r 'Aguilla Wren' yn gwasanaethu tan fis Hydref 1964, ac achubodd 14 o fywydau yn ystod y cyfnod hwnnw.



Ym 1963, penderfynodd yr RNLI gyflwyno badau achub y glannau (Inshore Life Boats neu ILBs) i’w llynges fel arbrawf, a gorsaf Aberystwyth oedd y cyntaf ym Mhrydain i gael un. Roedd yn bwnc llosg ar y pryd, gan fod nifer o bobl o’r farn na fyddai dingi 16 troedfedd o hyd gyda modur allanol yn effeithiol fel bad achub. Fe'u profwyd nhw'n anghywir, a blwyddyn yn ddiweddarach, tynnodd yr RNLI yr 'Aguilla Wern' o'r orsaf, ac ILBs sydd wedi cael eu defnyddio ers hynny.



Rhwng 1963 a 1983, roedd tri Bad Achub y Glannau Dosbarth D (Inshore Lifeboat neu ILB) yng ngorsaf Aberystwyth, gyda moduron 40 marchnerth sengl a radio VHF. Roedd ganddynt griw o ddau neu dri, ac yn medru cyrraedd cyflymder o 20 not. Roeddent yn hawdd a chyflym i'w lansio gan nad oedd angen criw mawr arnynt. 




Yr adeilad presennol




 



Storiwyd yr ILBs gwreiddiol mewn hen warws ar ochr y cei a byddent yn cael eu lansio i lawr y llithrfa i'r harbwr. Ehangwyd y warws ym 1983 er mwyn medru cadw ILB Dosbarth C a oedd yn fwy na'r rhai blaenorol. Roedd gan hwn fodur dwbl 40 marchnerth ac yn medru cyrraedd cyflymder o 27 not. Roedd yn cario criw o dri neu bedwar, ond gan ei fod yn pwyso tri chwarter tunnell, roedd angen tractor i'w lansio a'i ddychwelyd. Cafodd y tractor ei gynllunio'n arbennig ar gyfer yr RNLI ac yn gallu gweithio mewn dŵr pedair troedfedd o ddyfnder!



Yn dilyn adolygiad arfordirol 1990, penderfynodd yr RNLI uwchraddio cyfleusterau Aberystwyth. Adeiladwyd cwt newydd digon mawr i gadw 'Atlantic 21 ILB' newydd ar waelod y cei. Gallai'r bad hwn wirio ei hun pe byddai'n dymchwel, ac fe ddaeth i Aberystwyth ym mis Mehefin 1993. Roedd y bad yn pwysleisio ymrwymiad yr RNLI yn Aberystwyth.



Cafodd ei ddisodli gan yr Atlantic 75 ILB B704 'Enid Mary' flwyddyn yn ddiweddarach. Lansiwyd 'Enid Mary' ugain o weithiau yn ystod 1994, ac achubodd tri o fywydau! Yn 2011, canrif a hanner ers i'r RNLI ddod i'r dref, mae'r 'Enid Mary' yma ac yn gweithio o hyd.



Oes gyda chi luniau i gydfynd ar stori hyn? Llwythwch nhw ar Casgliad y Werin Cymru os gwelwch yn dda.