Skip to main content

Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar Ffrynt y Gorllewin

Ffynhonnell allanol:

Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Capten Arthur Edwards o Flaenafon a oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym mis Mawrth 1915.

Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir.

Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio.

Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn.

Ymladd y rhyfel o dan y ddaear

Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, a gychwynnodd y cyfan. Ym mis Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, o dan reolaeth Edwards.

Ym mis Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau’r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe’u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn.

Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli’r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i’r cyfeiriad arall, ac arweiniodd at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear.

Bathodyn Anrhydedd

Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth ddwywaith am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd drwy gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu’n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918.

Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru yn 2006. Maent yn rhan o’r arddangosiad "Bathodynnau Anrhydedd: medalau o’r ddau ryfel byd" yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Erthygl gan:Edward Besly, Niwmismatydd, Archeoleg a Niwmismateg. Amgueddfa Cymru

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (1)

Can anyone tell me when Arthur Edwards died and where he is buried? We have a group trying to record the thousands of graves in St Peter's Graveyard in Blaenafon. To my knowledge Major Edwards isn't buried in this graveyard but it would be wonderful to add his story to those of the many who made the iron and coal town in the old county of Monmouthshire, now Torfaen.

You must be logged in to leave a comment