Tiwnig y March-heddlu, dechrau'r 20fed ganrif
Disgrifiadau
Mae hanes y march-heddlu'n cychwyn ym 1760 pan gyflwynodd Syr John Fielding, ('the Blind Beak'), gynlluniau er mwyn mynd i'r afael â'r holl ladron-pen-ffordd a oedd yn bla ar ffyrdd Llundain. Roedd y patrôl gwreiddiol o 8 dyn mor llwyddiannus fe'u cynyddwyd i dros 50 erbyn 1805. Roedd March-heddlu Bow Street (The Bow Street Patrol) yn diogelu pob priffordd o fewn 20 milltir o Charing Cross.
Dros y blynyddoedd, mae dyletswyddau'r march-heddlu wedi newid i ddiwallu anghenion y gymdeithas. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd, diflanodd y lleidr-pen-ffordd, ond mewn ardaloedd gwledig roedd dwyn anifeiliaid yn broblem gynyddol. Roedd y march-heddlu ar flaen y gad wrth rwystro troseddwyr yn y maes hwn ac oherwydd bod y gwaith yn cael ei ystyried yn beryglus iawn roeddynt yn aml yn cario dryllau a cleddyfau.
Mae swyddog ar gefn ceffyl mewn sefyllfa da i ymdrin â grwpiau mawr o bobl, ar unrhyw achlysur. Gan ei fod yn eistedd yn uchel ar anifail cyflym a chryf uwchlaw'r dyrfa, mae'r swyddog yn weladwy iawn i'r sawl sydd angen cymorth ac mewn lle delfrydol i ddiogelu eraill a gweinyddu'r gyfraith. Dyma swyddogaeth bwysig aelodau'r march-heddlu hedddiw ac mae eu presenoldeb yn ystod gwrthdystiadau a digwyddiadau seremonïol neu chwaraeon wedi bod yn werthfawr tu hwnt o safbwynt gweinyddu'r gyfraith. Gan fod y ceffylau wedi eu hyfforddi yn wych ac yn ymddwyn mor dda, maent yn aml yn ffefrynnau gyda'r dorf, ac eto yn medru codi ofn mewn sefyllfaoedd mwy anghyfeillgar.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Ross Mather Po… on Gwen, 15/05/2015 - 21:16
This tunic was part of the uniform of Police Constable 311 Charlie Spencer who was stationed at Pontypridd.
You must be logged in to leave a comment