Capel Methodistaidd Calfinaidd y Cilgwyn
Disgrifiadau
Mae gan gapel y Cilgwyn wreiddiau yn un o achosion anghydffurfiol hynaf Cymru. Cyfarfu Presbyteriaid cynnar yn fferm Cilgwyn Isaf, gerllaw, mor gynnar ag 1654. Adeiladwyd eu capel cyntaf get Cilgwyn Uchaf yn 1689. Rhwng 1709 a 1760, roedd yr achos yng ngofal y Parch. Phylip Pugh o Flaenpennal, gweinidog Presbyteraidd a fu'n ddylanwadol iawn ar y Daniel Rowland ifanc o Langeitho. Tua 1840 symudwyd capel y Cilgwyn, carreg wrth garreg, i'w safle presennol yn Llangybi. Erbyn y 1950au roedd y capel yn wag ac yn dechrau dadfeilio. Achubwyd yr adeilad yn y 1980au gan griw o drigolion lleol a aeth ati i droi'r capel i mewn i gartref newydd i Aelwyd yr Urdd Llangybi, at ddefnydd pobl ifainc yr ardal. Trysor 2011
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Trysor on Gwen, 30/01/2015 - 19:46
Oops - sorry - hopefully they won't turn any more... have edited it and it should soon be changed to Presbyterian. Just a mistake typing the title in - we did it with a number of Presbyterian, CM and Unitarian chapels we'd been studying and somehow mistyped the denomination for Cilgwyn. The description we added makes it clear it was a Presbyterian chapel of course. But thanks for pointing it out Jen. Diolch.
You must be logged in to leave a comment