Stori'r PENSHURST

Ar 24 Rhagfyr 1917, roedd y PENSHURST yn agosáu at ben deheuol Môr Iwerddon, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â llong danfor Almaenig oddi ar y Smalls. Ddeng munud ar ôl canol dydd gwelwyd llong danfor ddau bwynt oddi ar y blaen chwith, Lledred 51.31 G a Hydred 5.33 Gn, 5 milltir i ffwrdd, yn llywio ar onglau sgwâr i’r PENSHURST ac yn dechrau dynesu. Roedd Naylor, y morlywiwr, y signalwr ar y bont, y swyddog cyflenwi wrth y llyw, dyn ar ben y tŷ gwn ôl, a chriw’r gwn, i gyd ar eu gwyliadwriaeth.

Erbyn hyn roedd y PENSHURST yn mynd 8 not a, pan blymiodd y llong danfor am 12.12pm, dechreuodd igam-ogamu wrth geisio gwneud i’r gelyn ddod i’r wyneb eto ac ymosod gyda’i ynnau. Am 1.31pm taniodd yr Almaenwyr dorpido o 300 llath i ffwrdd, hanner pwynt i’r blaen ar yr ochr chwith. Er troi’r llyw yn ffyrnig tua’r chwith, fe drawodd y torpido rhwng y boeleri ac ystafell yr injan. Stopiodd y PENSHURST yn stond a dechreuodd y starn suddo.

Roedd y torpido wedi ysgwyd y llong gymaint fel bod caeadau cuddio ar gyfer y gwn 4-modfedd yng nghanol y llong a’r tŷ gwn ôl wedi dymchwel. Roedd gynnau’r bont yn dal wedi’u cuddio. Er gwaethaf hyn, aeth y criw ati i adael y llong gan ddilyn y drefn arferol ar gyfer llongau masnach, ac aeth y criw panig i mewn i’r bad achub a rafftiau achub olaf.

Bu’r llong danfor yn mynd o amgylch y PENSHURST yn araf am awr cyn codi i’r wyneb am 2:40pm, 250 o lathenni oddi ar y blaen chwith, a dechrau tanio. Gan fod y starn wedi suddo, nid oedd yn bosibl gostwng y gwn ôl ddigon i danio ar y llong danfor. Serch hynny, manteisiodd criw’r gwn ar symudiad y llong gyda’r tonnau i danio chwe ergyd at y gelyn. Trawodd yr ail ergyd du blaen y llong danfor ar ochr dde’r dec, a thrawodd y bedwaredd ergyd y tu cefn i’r tŵr rheoli. Plymiodd y llong danfor a chododd i’r wyneb eto am 3:47pm ar yr ochr dde 5 milltir i ffwrdd. Ar yr adeg hon fe ymddangosodd llong-P a gadawodd y llong danfor.

Suddodd y PENSHURST am 8:05pm. Roedd y criw wedi’u hachub o’r llong. Yn sgil ymchwiliad, penderfynwyd bod yr holl griw wedi bod mor effro ag oedd bosibl, a derbyniodd Naylor ail far i’w DSO yn ddiweddarach. Derbyniodd yr Is-gapten E. Hutchinson DSO hefyd. Cafodd Arthur Reginald Marlton ac Albert Brewer, Taniwr Dosbarth 1af, eu lladd yn y frwydr. Mae Marlton wedi’i goffáu ar Gofeb Lyngesol Plymouth a Brewer ar Gofeb Lyngesol Chatham.

Mae 2 eitem yn y casgliad

  • 1,331
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 826
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi