Y Diwydiant Llechi – Chwarel Dinorwig
Casgliad o negatifau a gymerwyd gan E. Emrys Jones ac eraill yn y 1950au a'r 1960au.
Mae'r lluniau yn dangos y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar chwarel lechi Dinorwig. Mae llawer o luniau o weithdai chwarel Dinorwig (Gilfach Ddu) sydd bellach yn Amgueddfa Lechi Cymru, ac yn rhan o Amgueddfa Cymru.
Roedd Chwarel Dinorwig wedi’i thorri i ochr Mynydd Elidir, sy’n edrych dros bentref Llanberis. Mae’r ‘Ceiliog Mawr’ yn graig igneaidd ymwthiol fawr yn y Chwarel. Gwnaed sawl ymgais i ‘ladd y ceiliog’, gan gynnwys y ffrwydrad a ddangosir yma ym 1896. Fodd bynnag, nid oedd yr un o’r ymdrechion hyn yn gwbl lwyddiannus ac mae’r bwtres urddasol yn weladwy hyd heddiw i ymwelwyr ag Amgueddfa Lechi Cymru sydd ar safle’r gweithdai Fictoraidd yng nghysgod y mynydd.
Cafodd y delweddau yma eu digideiddio trwy rodd gan Sefydliad Esmée Fairbairn i Amgueddfa Werin Cymru yn 2011.