Y Mabinogi
Credir mai chwedlau’r Mabinogion yw rhai o’r storïau Cymraeg cynharaf ar glawr. Fe’u diogelwyd ar ffurf ysgrifenedig yn ystod y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg mewn llawysgrifau fel Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest.
Digwyddodd yr un ar ddeg stori hynafol mewn tirlun hudol a dirgel o greaduriaid rhyfeddol ac ysbrydion hynod sydd i weld yn bell o’n bywydau heddiw. Er hyn, o fewn yr hanesion yma ceir cymeriadau sy’n ymgodymu â themâu fel cwymp a gwaredigaeth, teyrngarwch a brad, cariad a chasineb sy’n eu gwneud yn fyw ac yn gyfarwydd i’w cynulleidfaoedd modern o hyd.
Er bod ysgolheigion yn credu mai camgymeriad gan gopïwr llawysgrifau oedd yn gyfrifol am y ffurf ‘mabinogion’ (yn hytrach na ‘mabinogi’), mae’r term yn awr yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at gasgliad o un ar ddeg chwedl sy’n cynnwys hanesion Culhwch ac Olwen, Pedair Cainc y Mabinogi (Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen Ferch Llŷr, Manawydan Fab Llŷr, Math Fab Mathonwy), Lludd a Llefelys, Y Tair Rhamant (Iarlles y Ffynnon, Peredur fab Efrog, Geraint fab Erbin), Breuddwyd Macsen Wledig a Breuddwyd Rhonabwy.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw