arrowbookcheckclosecommentfacebookfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Hwfa Môn

Archdderwydd, bardd a beirniad – Hwfa Môn o Rostrehwfa ger Llangefni oedd un o gymeriadau amlycaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd popeth amdano yn fawr – ei gorff, ei lais a’i hunanhyder. Enillodd chwe chadair Eisteddfodol gan greu argraff ar bawb oedd yn cwrdd ag ef. Yr oedd Hwfa Môn, yn ôl Hywel Teifi Edwards, ‘wedi’i greu ar gyfer llanw eangderau’. Testun gan Bedwyr Rees ar gyfer arddangosfa y Lle Hanes, Eisteddfod Genedlaethol 2017.  

Hwfa Môn (Rowland Williams), yr Archdderwydd, yn Eisteddfod Lerpwl, 1900.
Hwfa Môn yn hawlio sylw ar y Maen Llog yn Eisteddfod Caerdydd, 1899.
Tegan ‘Gorsedd y Beirdd’ a gynhyrchwyd gan Vale of Clwyd Toys, tua 1915. Cynhyrchwyd y tegan yma o’r Orsedd gan gwmni teganau ‘Vale of Clwyd Toys’ ar gyfer Eisteddfod Bangor 1915. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod honno, cafodd y cwmni arddangosfa...
Portread o Hwfa Môn yn ei wisg newydd gan Hubert von Herkomer, 1896. Amgueddfa Cymru. Tra roedd Hwfa Môn yn Archdderwydd rhwng 1894-1905, cafwyd adfywiad yng Ngorsedd y Beirdd. Dyluniwyd gwisg yr Archdderwydd ar ei newydd wedd gan yr artist...
Llun o Hwfa Môn gan Hubert von Herkomer, 1895. Het ar ffurf meitr esgob oedd gan yr Archdderwydd cyn i Herkomer ail-gynllunio’r wisg. Tra roedd Hwfa Môn yn Archdderwydd rhwng 1894-1905, cafwyd adfywiad yng Ngorsedd y Beirdd. Dyluniwyd gwisg...
Delwedd o ‘archdderwydd’ yn llyfr Henry Rowlands, Mona Antiqua Restaurata, 1723. Ysbrydolwyd Herkomer gan ddelweddau o’r fath wrth ddylunio gwisg yr Archdderwydd. Tra roedd Hwfa Môn yn Archdderwydd rhwng 1894-1905, cafwyd adfywiad yng Ngorsedd...
Honnwyd gan Cynan i’r wisg hon gael ei gwisgo gan Archdderwyddon Cymru o 1896-1959. Er hyn, mae disgrifiadau a delweddau o wisg Hwfa Môn yn awgrymu mai ei olynydd, Archdderwydd Dyfed, fyddai wedi ei gwisgo am y tro cyntaf. Dyfed oedd yr Archdderwydd...
Oil painting in the collections of Newport Museum and Art Gallery
Cadair Eisteddfod Yr Wyddgrug, 1873. Enillwyd gan Hwfa Môn am ei awdl ar y testun ‘Caradog yn Rhufain’. Rhif cyfeirnod: DF103576 - DF103583
Gwisgwyd y wisg hon gan Archdderwyddion Gorsedd y Beirdd o 1986 tan 2009. Pwythwyd y stola gan Mair Roderick a Mair Rees. Gwnaethpwyd y les aur gan Eirlys Jones.
Teganau pren wedi'u peintio o Orsedd y Beirdd 1914. Gwnaed gan y Vale of Clwyd Toy Factory, Trefnant. Roedd y cwmni'n cyflogi milwyr clwyfedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny. Oherwydd y rhyfel, cafodd Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 ei...
Hwfa Môn gan Christopher Williams, 1904
Cadair a enillwyd gan Roland Williams (enw barddol 'Hwfa Môn') yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead ym 1878. Rhodd gan Dr. Owen Pritchard. Mae'r lluniau yn dangos y gadair ar ôl gwaith chadwraeth. Rhif cyfeirnod: DF103522 - DF103531
Cadair a enillwyd gan Roland Williams (enw barddol 'Hwfa Môn') yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead ym 1878. Rhodd gan Dr. Owen Pritchard. Mae'r lluniau yn dangos y gadair cyn ei chadwraeth. Rhif cyfeirnod: DF103446 -DF103446
Mae 20 eitem yn y casgliad
Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Hwfa Môn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Hwfa Môn

 
  • Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw