Ysbyty Bryn y Neuadd: Clywedig Y Cyn Guddiedig
Cafodd ei adeiladu fel plasty yn wreiddiol, ac agorodd yr ysbyty ym 1898 i ofalu am “bobl wallgof ac ynfyd”. Parhaodd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Iechyd yn Lloegr hyd 1967.
Cafodd y plasty ei ddymchwel ac adeiladwyd yr ysbyty arhosiad hir ym 1971. Cafodd ei ddylunio i roi llety i breswylwyr ag anabledd dysgu o Barc Oakwood ac Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.
Fel ysbyty mwy newydd, nid oedd gan ‘Bryn’, fel y mae’n cael ei adnabod, gyfyngiadau sefydliadau hŷn. Recriwtiodd staff newydd gymhwyso a chynigiodd leoliadau i fyfyrwyr.
Cafodd ‘cleifion’ eu galw’n ‘breswylwyr’ i helpu â’r syniad bod yr ysbyty’n gartref.
Er bod rhai ymarferion hen ffasiwn yn parhau i fodoli yn yr ysbyty, roedd yn flaenllaw ei feddwl mewn llawer o ffyrdd.
Ym 1996 cafodd cau’r ysbyty ei ohirio. Comisiynodd rheolwyr yr ysbyty adroddiad annibynnol i mewn i hawliau’r preswylwyr. O ganlyniad i’r adroddiad, gwnaeth yr ysbyty wella bywydau a hawliau a wrthodwyd i breswylwyr mewn ysbytai