Albwm Lluniau’r Welsh Horse.
Albwm o 32 portread milwrol yw The Welsh Horse Album. Cafodd ei lunio’n rhodd i’r Henadur J. Robinson. Mae’r arysgrif ar y tu mewn i’r albwm yn dweud: ‘To Alderman J Robinson from all ranks of the Welsh Horse as a small return for many kindnesses during the raising of the regiment. August 1914’ Mae’r llofnod ‘H. J. Whitlock & sons Ltd, Cardiff’ ar y portreadau. Ffurfiwyd catrawd Iwmyn y Marchoglu Cymreig ym mis Awst 1914 dan weinyddiaeth Cymdeithas Llu Tiriogaethol Morgannwg, a chyda’i phencadlys yng Nghaerdydd (Gerddi Sophia). Yn ddiweddarach ym 1914, symudodd i’r Drenewydd a chael ei throsglwyddo i Gymdeithas Llu Tiriogaethol Sir Drefaldwyn. Erbyn dechrau 1915, roedd wedi symud eto i dref farchnad Diss yn Norfolk. Rhoddwyd yr albwm i Lyfrgell Amgueddfa Cymru ym 1932. Rhif derbynodi’r llyfrgell: 30109
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Eliz on Iau, 12/07/2018 - 11:39
So pleased this has been uploaded - I would never had found it otherwise. Now heading off to view the original in Cardiff!
You must be logged in to leave a comment