Derek Jones
Gwelodd y cyfwelai deledu am y tro cyntaf yn nhy ei fodryb a gwyliodd y teledu tra oedd yn gwasanaethu gyda'r Llu Awyr. Mae'n cofio'i ewythr yn prynu chwyddwydr i roi ar y sgrin. Mae'n siarad am welliannau i ddarllediadau allanol dros y blynyddoedd, yn arbennig o ran chwaraeon, a mwynhau hanes cymdeithasol gwylio gem bel-droed. Mae'n trafod effaith cyffredinol teledu a'r profiad diddorol o'i wylio'n datblygu. Dilynodd hanes Tryweryn o bersbectif Lerpwl gan fod signal y teledu'n dod o'r ardal honno yn hytrach nag o Gymru. Nid oedd llawer o ymdriniaeth o Gymru o Streic y Glowyr, ac roedd yn fwy ymwybodol o'r hyn oedd yn digwydd yng nglofeydd Gogledd Lloegr.