cac01253
Atgofion cynharaf y cyfwelai yw rhaglenni plant. Bu teledu yn y cartref o 1953 ymlaen ond heb gael teledu Cymraeg na HTV yn ardal Garth nes yr 80au. Radio yn bwysig iawn yn eu cartref.Tryweryn heb gael effaith ar ei synnwyr o Gymreictod ar y pryd ond mi wnaeth flynyddoedd wedyn.Gwelodd drychineb Aberfan yn nhy ffrind, roedd y teledu ymlaen yno drwy'r amser ac mae'r cyfwelai'n cofio gweld y cyrff yn cael eu cario i'r capel. Roedd y drwg deimlad yn cael ei bortreadu ar y teledu hefyd. Gwelodd seremoni'r Arwisgiad ar deledu lliw, ac mae'n cofio gweld protestiadau ond dim byd ar ddiwrnod y seremoni. Meddwl bod pawb yn mwynhau'r sioe ond yn golygu dim iddi hi fel Cymraes.Dywed y cyfwelai fod pobl heb ddangos ddigon o ddiddordeb yn ystod Refferendwm 79. Yn 97 dywed nad oedd yn cytuno a'r syniad fod Caerfyrddin wedi 'ennill' y dydd.Heb lwyddo i gael S4C nes 1986, gwylio'r sianel fwy nag unrhyw sianel arall erbyn heddiw.