cac01339
Dywed y cyfwelai eu bod wedi bod heb drydan nes canol y 50au, cawsant deledu wedyn a mi roedd yn newydd a chyffrous er bod y llun yn sal y rhan fwyaf o'r amser. Gwyliodd drychineb Aberfan ac mae'n meddwl bod y ffaith ei fod yn ddu a gwyn wedi gwneud y darlledu'n fwy trawiadol. Wedi gwylio'r Arwisgiad ond yn anghytuno a'r egwyddor, dywed mai safbwynt Prydeinig iawn oedd i'w gael ar y teledu. Cofio bod Neil Kinock yn gwrthwynebu Datganoli ym 1979 a bod y ddadl yn un hollol wahanol yn 1997. Arhosodd ar ei thraed drwy'r nos a gwirioni. Ddim yn cofio noson lansiad S4C yn fanwl ond wedi gwirioni cael teledu Cymraeg bob dydd ac wedi gwylio llawer o raglenni Cymraeg wedyn, mae'n teimlo weithiau bod gormod o ogwydd y De ar y newyddion. Mae'n cofio bod Streic y Glowyr ymlaen bob dydd, roedd yn teimlo bod y glowyr yn ymladd dros eu cymunedau ond nid oedd y llywodraeth yn gweld hynny ac yn eu portreadu fel pobl ddrwg.