cac01157
Cyfwelai yn cofio gweld y Coroni yn nhy rhywun arall, roedd y signal yn wael ond roedd yn ddigwyddiad cymdeithasol a theimlai eu bod yn gwylio rhywbeth hanesyddol. Dilynodd y cyfwelai'r darlledu o Aberfan i gyd, teimlo bod darlledu yn llai soffistigedig bryd hynny ac felly yn fwy emosiynol ac yn gwneud mwy o argraff oherwydd ei fod yn syml.Cofio dim am Refferendwm 79, y trafodaethau yn 97 yn ddiddorol ac wedi eu dilyn ar y teledu. Sylweddolai bwysigrwydd S4C fel llwyfan i ddiwylliant Cymreig ond wedi ei siomi bod rhaglenni Saesneg ar y sianel hefyd. Gallu dilyn rhaglenni rhywfaint, yn mwynhau rhaglenni natur Iolo Williams. Mae'n cofio Streic y Glowyr a bob amser yn meddwl am yr elfen 'stori' sydd i bob digwyddiad yn y cyfryngau.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment