Skip to main content

cac01246

Cofia'r cyfwelai y prynodd ei thad deledu gydag arian a enillodd a gwahoddodd lawer o'u cymdogion i weld y Coroni. Mae hi'n cofio ei fod yn glawio yn Llundain ac roedd yr ystafell fyw yn orlawn. Mae hi'n cofio gweld Pagliacci a dywed fod teledu'n rhoi cyfle iddyn nhw wylio opera. Darllennodd am Dryweryn yn y papurau newydd ond nid yw'n cofio'i weld rhyw lawer ar y teledu. Aberfan oedd y tro cyntaf mae hi'n cofio gwylio 'newyddion brys'. Gwyliodd yr Arwisgiad mewn lliw, ac fe gofia dillad y Frenhines. Aethant i Gaernarfon wedi'r Arwisgiad i ymweld a'r castell.Ymddiddorodd mwy yn S4C wrth i amser basio, ond ni fedrent ei dderbyn o gwbl ar y dechrau. Aeth Streic y Glowyr ymlaen am amser hir, ac fe gofia gweld brwydro. Fe effeithiodd y streic ar y gweithfeydd dur yn Wrecsam.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment