Ifanwy Rhisiart

Pan oedd y cyfwelai yn blentyn, nos Sul oedd y noson fyddai'n gwylio'r teledu. Byddai'n brysio adref o'r capel ac ni fyddai neb yn galw. Roedd pob noson arall yn gymdeithasol.Cyn rhaglenni Cymraeg roedd teledu'n teimlo'n ddieithr a phell. Roedd yr ystafell fyw fel sinema ar adegau gyda thrigolion y stryd yn ymgynnull yno, ac yn aml byddai rhywun yn gorfod mynd ar y to a chwarae a'r erial. Mae hi'n cofio gweld protestiadau Tryweryn ar y teledu a gofyn i'w thad am gael mynd yno i brotestio hefyd. Roedd yn canfasio yn ystod Ymgyrch Datganoli 79 ond roedd y newyddion yn y cefndir, gyda'r ochr Na yn cael ei bortreadu'n un Brydeinig a Ie yn un Gymreig.Teimlodd fod y newyddion yn ystod Streic y Glowyr yn adrodd llais y llywodraeth a'r plismyn. Cafodd ei synnu bod diwylliant glowyr Lloegr mor debyg i rai De Cymru. Cymrodd ran mewn protestiadau yn erbyn yr Arwisgiad a sylweddoli wedyn fod y newyddion yn dweud anwiredd. Wedi cyffro lansiad S4C cafodd siom wrth weld datblygiad y sianel.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 531
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 554
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 550
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 657
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 636
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 686
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi