Eleri Roberts

Cofia'r cyfwelai mynd i gartref doctor y pentref i wylio'r Coroni, roedd y teledu wedi cael ei roi ar ben ysgol a roedd yno de parti i'r plant. Eira oedd ar y sgrin yn bennaf ond roedd pobl y cylch i gyd yno ac roedd yn gyffrous cael gwylio teledu am y tro cyntaf.Clywodd am foddi Cwm Tryweryn ar y radio ond byddai'n mynd i dy ei chwaer i weld y newyddion a gwelodd y protestiadau yno. Gwelodd filwyr yn ymarfer ar lon Bangor cyn yr arwisgo ac roedd yn meddwl bod teledu'n dangos gwrthwynebiad er mwyn rhoi hwb i gefnogwyr yr arwisgo. Roedd diwrnod claddu'r plant yn Aberfan wedi gwneud argraff. Ddim yn teimlo bod S4C cystal bellach ond yn cofio ympryd Gwynfor Evans a Margaret Thatcher yn newid ei meddwl.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 927
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 793
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 606
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 829
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 701
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi