Ilid Angel

Cafodd y cyfwelai deledu yn y cartref pan oedd yn 10 oed, cyn hynny gwylio rhaglenni plant yn nhy ei modryb a'i hewythr. Wedi gwylio mwy pan oedd yn magu'i phlant ei hun, anodd dilyn cyfresi ar y teledu wrth weithio. S4C yn bwysig iawn i'w mam, felly yn gwylio yn ei sgil.Clywodd am Dryweryn ar y radio, ond roedd pawb yn ei drafod yn y gymuned a gwelodd luniau o'r pentref ar y teledu. Ddim yn cofio llawer o brotestio. Clywodd am Aberfan ar y radio gyntaf hefyd, cofio gweld pobl yn helpu ar y teledu. Digwyddiad oedd yn effeithio ar bawb. Gwelodd rywfaint o orymdaith yr Arwisgiad yng Nghaernarfon, roedd parti mawr yn y stryd a chriw mawr yn gwylio'r seremoni ar y teledu wedyn. Dywed fod rhan fwyaf o bobl y dref yn falch fod y seremoni'n digwydd yng Nghaernarfon. Cofio pryderon yngl?n a phrotestiadau yn y misoedd cynt, byddai'n gweld y dre'n aml ar y teledu. Fel Cymraes roedd yn falch ei fod yng Nghaernarfon, roedd yn ei roi ar y map a denu pobl yno.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 399
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 584
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 687
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 448
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi