Menna Davies

Dim teledu gan y cyfwelai i ddechrau byddai'n cael gwahoddiad i dai ffrindiau i wylio rhaglenni plant. Cofio byddai lliain yn cael ei roi dros y sgrin bob nos. Dywed y cyfwelai nad oedd yn ymwybodol am ddigwyddiadau yn Nhryweryn ar y pryd, wedi clywed mwy wedyn.Cofio gwylio trychineb Aberfan ar deledu yng Ngholeg Bangor, meddwl fod yr holl sylw a gafodd y digwyddiad wedi helpu cael mwy o ddiogelwch yn y pyllau glo.Dywed iddi osgoi'r Arwisgiad, roedd y darlledu yn ei bortreadu fel digwyddiad arbennig i Gymru. Gwyliodd noson lansiad S4C, dywed ei bod yn gynhyrfus iawn, mae wedi codi statws yr iaith Gymraeg ac wedi dylanwadu ar y cynnydd mewn ysgolion Cymraeg yn ardal Wrecsam.Fe wnaeth y darlledu yng nghyfnod Streic y Glowyr iddi edrych ar ddwy ochr y newyddion.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 396
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 504
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 689
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 412
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 398
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 338
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi